Manylion Technegol Lefel 3
Cysylltwch ag Adran Dechnegol y Llwyfan i gael rhagor o wybodaeth.
Cael i mewn
Drwy’r lifft Arlwyo neu lifft Blaen y Tŷ. Lifft gefn llwyfan trwy drefniant gyda’r Technegwyr Llwyfan.
Pŵer
13 amp sengl wedi ei fwydo’n lleol Mae modd gosod pŵer uwch hyd at 63 amp phase unigol, ond rhaid trafod hyn yn y lle cyntaf gyda Rheolwr Technegol y Llwyfan.
Llwyfan
Ceir diagram o’r gofod ar ddiwedd y ddogfen hon. Yn sgil y golofn ar ochr Dde’r Llwyfan, mae’r gofod perfformio braidd yn gyfyngedig. Cysylltwch â Rheolwr Technegol y Llwyfan os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch.
Piano
Mae gan y llwyfan biano mawr Honer Boudoir. Mae’r piano mewn cyflwr da a gellir ei diwnio am bris ar gais. Gellir symud y piano i gornel bellaf y llwyfan ond nid ei dynnu oddi yno.
Sŵn
Rheoli
Desg ddigidol Behringer X32 gyda 32 mewnbwn mono gyda preamps midas y gellir eu rhaglennu, 6 mewnbwn, gydag 16 allbwn XLR a 6 allbwn llinell. Prif LCR, 6 bus matrics ac 16 bus cymysgu bob un ag inserts, EQ parafetrig 6-band a prosesu deinamig llawn, ynghyd ag 8 DCA a 6 grwp mud. Rac FX Rhithiol yn cynnwys 8 o slotiau FX stereo gwirioneddol. Am ragor o wybodaeth ewch i Behringer.
Amps ac Uchelseinyddion
Y prif uchelseinyddion ar-y-llwyfan yw dau Nexo PS15 ac LS1200 ar bob ochr. Ategir at hyn gan ddau uchelseinydd EMS-61 i lenwi yn y cefn. Mae’r Nexos yn derbyn eu pŵer o un syb Crown Macro-Tech 5000 VZ (tops) ac un syb Crown Macro-Tech 3600 VZ (mono-bridged). Gyrrir yr uchelseinyddion llenwi gan amp Yamaha P5000.
Llwyfan
Behringer S32 Digital Snake yw’r bocs llwyfan sydd wedi’i leoli ar y rac ar ochr dde y llwyfan. Mae’r monitorau'n derbyn pŵer gan dri amp Yamaha P3500, sydd wedi’u lleoli ar y rac ar ochr dde y llwyfan. Mae yna ddau letem DB Technologies Arena 12 a phedair lletem DB Technologies Arena 15 Pro ar gael.
Goleuo
Cylchedau 24 x 2kw wedi eu patsio’n galed / hollti rhwng Pedwar bar IWB wedi eu gosod yn fertigol Blaen, Cefn a bob ochr i’r llwyfan.
- Pâr-cans 2 x 1kw trwyn hir
- 2 x Srouce 4 LED Lustr+ 15-30 Deg Profile Zoom
- 5 x Lusr+ Desire D60 Wash (3 fel goleuadau cefndirol a 2 fel goleuadau blaen) Goleuadau Symudol Krypton 2 x MAC 250
Strand LD90 yw’r system pylu goleuadau wedi ei reoli gan Ddesg Oleuo Cyfres Zero 88 FLX.
Does DIM pwyntiau crogi ar lefelau 3 a 4.
Diweddarwyd Gorffennaf 2020