Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Cyfres Caerdydd Glasurol 2023-24

 Gwasgwch yma i ddarllen y wybodaeth yn Saesneg
 

O STRASBOURG I SHENZHEN… 20 O GYNGHERDDAU GYDA GOREUON Y BYD

Pa un ai’r Corawl, y Clasurol ynteu’r Cyfoes sydd at eich dant chi, does dim dwywaith na fydd rhywbeth i’ch plesio chi yn y Gyfres Caerdydd Glasurol eleni. Mae yma gerddorfeydd yn rhoi tro amdanom o Ffrainc, yr Almaen a Tsieina, ynghyd â rhai o unawdwyr mwya’u bri ein dydd, felly rydym yn siŵr y byddwch am ddod aton ni i rai o’r cyngherddau sydd ar gynnig os nad y cwbl.

UNAWDWYR RHYNGWLADOL

Yn y rheng ddisglair o unawdwyr y tymor yma mae’r pianyddion Jonathan Biss, Nikolai Lugansky, Jeremy Denk, Zee-Zee; y mezzo-soprano Christianne Stotjin; y ffidleriaid Tamsin Waley-Cohen, Simone Lamsma, Maria Loudenitch, Immo Yang a’r soddgrythorion Nicolas Alstaedt, Victor Julien-Laferrière, Jiapeng Nie, Abel Selaocoe ac Alisa Weilerstein. Ac nid y lleiaf, bydd yma Julian Bliss (y clarinét), Jess Gillam (y sacsoffon) a Ben Goldscheider (y corn Ffrengig).

Tanysgrifiwch i'n Pecynnau Cyngherddau Ni NAWR 

MANTEISION PRYNU PECYN: 

  • Gallwch arbed hyd at 30% ar eich tocynnau ac, o’u prynu nhw’n awr, fe gewch chi dalu dros chwe mis (yn ddi-log), gan wneud i’ch arian fynd ymhellach (does rhaid i chi ond gofyn yn y Swyddfa Docynnau am y ffurflen archeb reolaidd)
  • dewis cyntaf o seddi i’r holl gyngherddau eleni
  • Cerdyn Disgownt Tanysgrifiwr
  • Prynu tocynnau ychwanegol nawr, neu’n nes at yr adeg, i’ch ffrindiau a’ch teulu, am eich pris disgownt tanysgrifio
  • Prynu eich rhaglenni ymlaen llaw a chael disgownt – £3.00 ymlaen llaw, £3.50 ar y diwrnod.

MANTEISION PRYNU TOCYNNAU I’R HOLL GYNGHERDDAU:

  • Gwahoddiad i’n parti ni ar noson agoriadol y tymor
  • Dau gyngerdd awr ginio AM DDIM o’ch dewis
  • Cerdyn disgownt yn rhoi hawl i chi gael diodydd poeth a thameidiau i aros pryd 10% yn rhatach yn y Lolfa Jin a’r barrau
  • Y disgownt tanysgrifio tymor cyfan mwyaf rydym wedi’i gynnig erioed, gyda gwneud mwynhau’r cyngherddau i gyd yn fwy fforddiadwy fyth
  • Blwyddyn gyfan o gyngherddau gwych i edrych ymlaen atynt!


DLAWRLWYTHWCH RAGLEN CYFRES GLASUROL CAERDYDD 2023/24

 Arbedion  10%   10%   10%   15%   15%   20%   20%   20%   25%   25%   25%   30%   30%   30%   30%   30%   30% 
 Nifer o gyngherddau     4    5    6    7    8    9    10    11    12    13    14    15    16    17    18    19    20

 

Mae tanysgrifiadau ar gael yn bersonol neu dros y ffôn. Piciwch i mewn neu roi caniad i’n tîm cyfeillgar yn y Swyddfa Docynnau i archebu.

Cynnig Adar Cynnar
Bydd prisiau pecynnau’n is os codwch chi eich pecyn yn cynnwys The Sixteen a/neu Tallis Scholars yn ystod cyfnod y cynnig Ceiliog y Bore (cyn 30ain Medi 2023).

Archebion grŵp
Byddwn yn nodi ceisiadau am seddi penodol, ond does dim dal y byddan nhw ar gael felly dylech gadw lle’n fuan.  Os oes arnoch chi eisiau eistedd gyda’ch ffrindiau, rhowch yr archebion i gyd ar yr un pryd.

RHAGOR AM Y GYFRES GLASUROL YNG NGHAERDYDD
SGWRS CYN Y GYNGERDD (AM DDIM) | Lefel 1  

Awr cyn pob un o’n cyngherddau mae gennym gip hanner awr ar gerddoriaeth a chyd-destun y perfformiad. Mae’r digwyddiadau poblogaidd yma’n gydnaws ac yn llawn gwybodaeth ac yn ffordd dan gamp o wneud yn fawr o’ch profiad yn y cyngerdd. 

Mae’r sgyrsiau am ddim i’w mynychu, ond dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’ch lle. 

 

Mae Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru yn eiddo Cyngor Caerdydd sy’n ei rheoli a’i hariannu. Cefnogir Neuadd Dewi Sant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

        
    

Ebrill 2024
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio