Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Hanes Neuadd Dewi Sant

CYFLWYNIAD

Neuadd Dewi Sant - Neuadd Gyngerdd a
Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru

Neuadd Dewi Sant yw Neuadd Gyngerdd a  Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru, ac mae wedi’i lleoli yng nghanol dinas Caerdydd yn yr Ais.

Ers iddi agor ym 1982, mae miliynau o ymwelwyr wedi mynd yn llu i'r Neuadd i brofi sain ryfeddol yr awditoriwm, sy'n parhau i groesawu cerddorfeydd gorau'r byd.

Mae’n cynnal digwyddiadau mawr ac enwog gan gynnwys BBC Canwr y Byd Caerdydd, y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol, Proms Cymru a Gwobrau BAFTA Cymru.

Yn ogystal â cherddoriaeth glasurol, bale ac opera o safon byd, mae toreth o sêr amrywiol wedi troedio llwyfan yr awditoriwm gan gynnwys Syr Anthony Hopkins, U2, Adele, Syr Elton John, Ray Davies, Johnny Cash, Tina Turner, Miles Davies, Joe Calzaghe, Brian Wilson a Syr Ranulph Fiennes ymhlith llawer eraill.

Mae digrifwyr di-ri wedi bod yma, ac mae Lolfa L3 wedi rhoi llwyfan i artistiaid pan oedd eu gyrfaoedd yn datblygu’n raddol, megis Amy Winehouse a  Jamie Cullum.


Yr A-Z o ran adloniant!
(Tudalennau canol y rhaglen dathlu’r dengmlwyddiant)

Mae'r gofod hefyd yn un y mae galw mawr amdano i gynnal cynadleddau a digwyddiadau cymunedol, ac mae'n rhoi llwyfan hanfodol i dalent ieuenctid ac amatur.

Cyngor Caerdydd sydd berchen ar y neuadd ac sy’n ei rheoli a’i hariannu gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn flynyddol cynhelir tua 300 o berfformiadau yno a fynychir gan gynulleidfaoedd o dros 250,000. Mae'n parhau i fod yn lleoliad blaenllaw yn natblygiad diwylliannol a pharhaus Caerdydd i fod yn un o ddinasoedd mwyaf cosmopolitan Ewrop.

Ym mis Hydref 2016, gosodwyd Neuadd Dewi Sant gan y wefan cyfryngau blaenllaw Business Insider UK yn nawfed yn rhestr Deg Uchaf neuaddau cyngerdd y byd o ran ei sain, ar y blaen i'r Albert Hall a Thŷ Opera Sydney a lleoliadau enwog eraill.


Neuadd orlawn!

YR ADEILADU

Y gwaith adeiladu yn dechrau ar Neuadd Dewi Sant yn y 1970au hwyr

Rhoddwyd y dasg anodd i’r Penseiri, Partneriaeth Seymour Harris, o osod awditoriwm 2,000 o seddi perffaith ei acwstig – gydag ystafelloedd gwisgo, barrau, cynteddau, swyddfeydd a chyfleusterau cynadledda – mewn gofod cyfyngedig yng nghanol y ddinas. Roedd y gofod mor gyfyng fel eu bod yn gorfod ffitio'r datblygiad o fewn ardal Canolfan Siopa Dewi Sant oedd eisoes wedi'i gynllunio a’i adeiladu’n  rhannol.



Dyddiau cynnar yr adeiladu


Yr awditoriwm yn dod yn ei flaen!

O ganlyniad roedd rhaid i’r contractwyr John Laing & Son Construction Ltd sicrhau y byddai pob modfedd o ofod yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol, ac arweiniodd hyn at neuadd gyngerdd oedd â siâp hynod anarferol. Mae ei phensaernïaeth yn arddull gymhleth o Frwtaliaeth hwyr gyda'i choncrit llwyd onglog yn edrych yn ddigamsyniol fel adeilad modern o’r 1970au/1980au. 



Pensaernïaeth Frwtalaidd y Neuadd

Roedd awydd cyhoeddus a gwleidyddol i gael lleoliad o’r fath yn mynd nôl i’r 1950au. Eto i gyd, roedd yr aros hir yn werth chweil, a dim ond pum mlynedd gymerodd hi o’r egin syniad am y Neuadd, i’w chwblhau. 

 

Adeiladu’r Organ

Y DYDDIAU CYNNAR 

Staff glanhau yn nyddiau cynnar y Neuadd 

Llifodd 21,000 o bobl drwy'r drysau yn ystod diwrnod agored arbennig ar ddydd Llun 30 Awst 1982, a'r wythnos ganlynol cafwyd y perfformiad byw cyntaf am ddim wrth i Gôr Polyffonig Caerdydd gynnal ymarfer ar nos Fercher 8 Medi 1982.

Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf yr oedd rhaid talu amdano gan Fand Canolog y Llu Awyr Brenhinol, ac yn fuan wedyn cafwyd datganiad ar yr organ gan yr Americanwr Carlo Curley. Yn fuan wedi hynny, cynhaliwyd y gyngerdd pop gyntaf yn y Neuadd ar ddydd Iau 16 Medi 1982 gyda’r grŵp soul Prydeinig, Hot Chocolate, a phob tocyn wedi’i werthu.   Roedd y galw am docynnau mor uchel fel eu bod wedi ychwanegu perfformiad matinee ar yr un diwrnod.

Roedd Neuadd Dewi Sant yn llwyddiant ysgubol ar unwaith gyda mynychwyr cyngherddau.  Roedd ciwiau i’r Swyddfa Docynnau yn y misoedd cychwynnol yn aml yn ymestyn i fwy na 100 llath ar hyd Yr Ais.  Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer cyngherddau gan Cliff Richard, Oscar Peterson, Cerddorfa Symffoni Llundain, Neil Sedaka a Showaddywaddy o fewn yr wythnosau agoriadol. Adroddodd y Western Mail: "Mae ymateb y cyhoedd, y staff a pherfformwyr yn unfrydol... mae wedi taro deuddeg!"

Bu artistiaid Cymreig eiconig fel Tom Jones a Shirley Bassey yn mwynhau perfformio yn y lleoliad dros gyfres o nosweithiau yn ystod yr wythdegau – a dechreuodd y Manic Street Preachers firienio’u crefft tra’n bysgio ger y fynedfa yn eu harddegau! 

 


Proms cyntaf Cymru, 1986

YR AGORIAD SWYDDOGOL

Y Fam Frenhines yn datgelu plac yr agoriad swyddogol

Roedd Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru eisoes wedi bod yn ffynnu ers sawl mis pan gafodd y sêl bendith Brenhinol.  Ar ddydd Mawrth 15 Chwefror 1983, agorodd y Fam Frenhines Neuadd Dewi Sant yn swyddogol gan ddadorchuddio plac i nodi’r digwyddiad, nesaf at Lwyfan Lefel 3.

Yn y seremoni, dywedodd Ei Mawrhydi:  “Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn ychwanegu’n fawr at ansawdd bywyd yn ninas Caerdydd ac i bobl Cymru.”

Rhagair gan yr Arglwydd Uwchgapten, y Cynghorydd Philip Dunleavy yn rhaglen gofrodd yr agoriadol swyddogol

Yn y cyngerdd agoriadol roedd Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC, Petula Clark, Band y Cory, Côr Meibion Pontarddulais a’r arweinydd Owain Arwel Hughes. Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd y bas-bariton o Gymru, Syr Geraint Evans a’r actores Angharad Rees. Cafwyd darlleniad hefyd gan y bardd o Abertawe, Harri Webb a darlledwyd y digwyddiad yn fyw ar HTV Cymru.

 

Mae plac yr agoriad swyddogol yn parhau i gael ei arddangos ar Lefel 3

Artistiaid y cyngerdd agoriadol swyddogol

Cafodd bywyd artistig prifddinas Cymru ei drawsnewid yn llwyr gan Neuadd Dewi Sant.  Fel y dywedodd y rhaglen swyddogol:  "I bobl Caerdydd, mae Neuadd Dewi Sant yn gwireddu breuddwyd... neuadd gyngerdd ragorol yng nghanol eu dinas."

FFENESTR STUTTGART

 

Ffenestr Stuttgart ar Lefel 3

Wrth ymyl plac yr agoriad swyddogol mae ffenestr liw addurnedig a ddyluniwyd gan Hans Gottfried von Stockhausen, a roddwyd yn rhodd gan efaill dref Caerdydd, Stuttgart. Fe’i dadorchuddiwyd yn 1984 gan  Hansmartin Bruckmann, Bürgermeister Stuttgart (sy’n cyfateb yn fras i’n Maer ni). Mae'r dyluniad yn cynnwys tirwedd Cymreig gyda'i chymoedd eang a’i hafonydd llifeiriol, ond mae yna ychydig o ddiwylliant Cymreig ynghudd hefyd - edrychwch i weld a fedrwch chi sylwi ar y pyst rygbi!

O flaen y ffenestr mae Llwyfan Lefel 3, lle ceir perfformiadau’n rheolaidd gan gomedïwyr, cyngherddau gwerin yng nghyfres Roots Unearthed, perfformiadau gan Gerddorfa Jazz y Brifddinas a cherddoriaeth gyfoes yn y gyfres Hwyrgan; ynghyd â darllediadau byw achlysurol gan BBC Radio Wales.

PENDDELW RON WATKISS

Penddelw’r Cynghorydd Ron Watkiss CBE yn y cyntedd blaen


Roedd y Cynghorydd Ron Watkiss (21.05.1920- 21.04.1991) yn ddylanwadol iawn o ran creu Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, yn ogystal â nifer o’r  gwelliannau a wnaed i ganol dinas Caerdydd o ddiwedd y 1960au hyd ddechrau'r 1980au.

Daeth Watkiss yn Faer Caerdydd yn 1981 a derbyniodd CBE am ei wasanaeth i brifddinas Cymru gan gynnwys ei etifeddiaeth fwyaf, Neuadd Dewi Sant ynghyd â Chanolfan Siopa wreiddiol  Dewi Sant – a ychwanegwyd ati’n ddiweddarach gan Ganolfan Siopa St David’s Dewi Sant sy'n llawer mwy. Mae wedi ei anfarwoli gyda phenddelw efydd wedi'i leoli yng nghyntedd blaen y lleoliad.

Cafodd ei gerflunio gan Chris Kelly, a'i gyflwyno gan ffrindiau a chydweithwyr Watkiss.  Fe’i dadorchuddiwyd ar ddydd Mercher 20 Mai 1992, dim ond blwyddyn wedi ei farwolaeth, gan Arglwydd Faer Caerdydd ar y pryd, y Cynghorydd Sainsbury i gyd-daro gyda dathliadau deng mlwyddiant y Neuadd.

Mae’r gornel hon o’r cyntedd blaen bellach wedi ei chadw at ddibenion hyrwyddo cerddorfa breswyl y lleoliad, sef Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

PENDDELW’R TYWYSOG CHARLES

Penddelw’r Tywysog Charles yn y cyntedd blaen

Wedi'i leoli ar ochr chwith cyntedd blaen yr adeilad, fe sylwch ar benddelw o'i Uchelder Brenhinol, y Tywysog Charles (Tywysog Cymru) a gyflwynwyd i'r Neuadd gan Gymdeithas Gelfyddydau Cyfoes Cymru. Fe’i crëwyd gan Ivor Roberts-Jones (ond sydd â’i enw wedi ei nodi yn anghywir fel ‘Ivor Robert Jones’ ar yr arysgrif).

Mae'r penddelw o fewn cilfach a gynlluniwyd gan un o ffigyrau blaenllaw'r byd pensaernïol Cymreig, Ivan Dale Owen o Ferthyr Tudful, a ddyluniodd hefyd benddelw Richard Burton yn Theatr Newydd Caerdydd.

Islaw'r gilfach mae carreg sylfaen a osodwyd gan y Tywysog Charles ar 21 Gorffennaf 1979 ym mhresenoldeb yr Arglwydd Faer (y Cynghorydd Bella Brown) a chynrychiolwyr blaenllaw eraill o Gyngor Caerdydd yn cynnwys y Cynghorwyr Watkiss a Sainsbury.

 


Yr Ysgrifennydd Cartref (a Phrif Weinidog Prydain yn y dyfodol) Theresa May a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn sgwrsio â'r Tywysog Charles ar Ddiwrnod Cenedlaethol Coffau'r Heddlu, Medi 2013

PENDDELW’R DYWYSOGES DIANA

Penddelw’r Dywysoges Diana yn y cyntedd blaen

Yn uniongyrchol yng nghanol cyntedd blaen y Neuadd ger y grisiau symudol mae penddelw efydd o'r Dywysoges Diana a grëwyd gan y cerflunydd o Dreorci, Robert Thomas. Fe’i cwblhawyd yn 1987 a’i gyflwyno i ddinas Caerdydd gan aelodau Tŷ'r Arglwyddi ar 21 Gorffennaf 1989. Mae gweithiau eraill Robert Thomas yn cynnwys cerflun maint llawn o Aneurin Bevan, sefydlydd y Gwasanaeth Iechyd, ar Heol y Frenhines, Caerdydd.

 

Y Dywysoges Diana yn hebrwng y Tywysog William ar ei ymweliad brenhinol cyntaf â’r Neuadd, Dydd Gŵyl Dewi 1991

Ymwelodd y Dywysoges Diana â Neuadd Dewi Sant sawl gwaith. Ar ddydd Gwener 1 Mawrth 1991 fe ddaeth â’r Tywysog William gyda hi i’r Neuadd, ar ei ymweliad cyhoeddus cyntaf. Yn drasig, bu farw'r Dywysoges Diana mewn damwain car ym Mharis ddydd Sul 31 Awst 1997 yn ddim ond 36 oed. 

Y canwr opera nodedig, Syr Geraint Evans yn cwrdd â'r Dywysoges Diana ar ddiwrnod agoriadol swyddogol y Neuadd, Chwefror 1983

Ymuno â'r rhestr bostio