Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Actifyddion Artistig

Mae’r Rhaglen Actifyddion Artistig yn Neuadd Dewi Sant yn cynnig mynediad i'r celfyddydau drwy ddarparu a datblygu cyfleoedd i gymryd rhan, addysg gelfyddydol a'r celfyddydau yn y gymuned. Cymerwn ein hysbrydoliaeth o raglenni amrywiol Neuadd Dewi Sant, gan anelu at annog pobl, o bob oed, i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a'u mwynhau.

I gael gwybod mwy am y Rhaglen Actifyddion Artistig, ewch i'n gwefan drwy ddilyn y ddolen hon.

Prosiectau Craidd

Cyfres Cyngherddau Caerdydd Glasurol  - Bonws

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru rydym yn rhedeg amrywiaeth o "fonysau" ochr yn ochr â'r Gyfres Cyngherddau Caerdydd Glasurol, sy'n ychwanegu at brofiad ein cynulleidfa ac yn datblygu cariad at gerddoriaeth gerddorfaol mewn rhannau newydd o'r gymuned. Mae'r rhain yn cynnwys sgyrsiau cyn cyngherddau, Mapiau Clasurol, podlediadau, prosiectau cerddoriaeth cyfranogol ysgolion a chynllun cyfansoddwyr ifanc.


Prom y Plant

Dyma ein prosiect i gyflwyno ein cynulleidfa ieuengaf i gerddoriaeth fyw. Mae Promiau’r Plant wedi eu dylunio’n benodol gan dîm creadigol Actifyddion Artistig ar gyfer plant dan 5 ac maent yn gyfle gwych i blant ifanc brofi cerddoriaeth yn rhyngweithiol, mewn amgylchedd creadigol hwyliog.

Soundworks

Yn y gweithdai cerddoriaeth rheolaidd hyn sy’n cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, rydym yn croesawu oedolion sydd â nifer o anghenion arbennig. Mae'r sesiynau'n galluogi cyfranogwyr i archwilio a chreu cerddoriaeth mewn modd pleserus a hygyrch.

Drwy ein Prosiect Cerddorfa Agored rydym yn ehangu'r gwaith hwn i'n partner-ysgolion arbennig yng Nghaerdydd.

Gamelan

Mae Gamelan Neuadd Dewi Sant yn gerddorfa offerynnau taro Jafanaidd lawn - yr unig un yng Nghymru. Ers y dechrau yn 1998 mae miloedd o bobl o bob oed wedi mwynhau chwarae a gwrando arni. Gall grwpiau ysgol o bob rhan o dde Cymru gymryd rhan mewn gweithdai blasu bywiog ac mae sesiynau blasu cyhoeddus rheolaidd ar gael. Yn ogystal, mae grŵp cymunedol brwdfrydig yn cyfarfod bob wythnos i chwarae'r offerynnau unigryw hyn.

A2 Criw Celf

Mae'r rhaglen eang hon sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i artistiaid ifanc weithio gydag artistiaid proffesiynol, curaduron, dylunwyr, gwneuthurwyr ffilmiau ac ati i ddatblygu dealltwriaeth ehangach a mwy o brofiad o’r celfyddydau gweledol cyfredol. Mae Criw Celf yn gweithio gyda phobl ifanc sy'n dangos talent neu ddiddordeb arbennig yn y celfyddydau gweledol gan eu helpu i ddatblygu eu potensial yn llawn.

Ymuno â'r rhestr bostio