Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

BBC Radio 2 Sounds of the 80s: Y Daith Fyw - WEDI'I GANSLO

Dyma’r DJ chwedlonol Gary Davies yn dod â sioe radio fwyaf poblogaidd yr wyth degau yng ngwledydd Prydain ar daith – y sioe glywch chi ar nos Sadwrn ….yn fyw ar lwyfan!

Bydd yntau a’i gynhyrchydd Johnny Kalifornia yn eich cipio’n ôl i’r degawd gorau ym myd cerdd – yr wyth degau!

Dewch i jolihoetio i Mastermixes wedi’u curadu’n arbennig a gwylio’n dawnswyr Sounds of the 80s disglair yn ail-greu golygfeydd clasurol o ffilmiau a fideos yr wyth degau.

Gewch chi ddawnsio i gyfeiliant eich hoff anthemau’r wyth degau gan artistiaid fel Wham!, Queen, Prince, Madonna, Whitney a rhagor.

A hwyrach wir y bydd yna ambell i eicon annisgwyl o’r wyth degau … Felly gwisgwch yn grand o’ch co a thyrchu’r crysau Ti Frankie a Wham o waelod y wardrob, rhoi’r ffunennau am eich pen a’r legins gweu am eich coesau a dod aton ni i ail-fyw oes fwyaf cerddoriaeth mewn horwth o barti.

Cynhyrchiad masnachol ydi Sounds of the 80s a drwyddedir gan y BBC.

 
  • Pris safonol: £22.80 | £35.00 | £37.00 | £41.00
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag n cydymaith (cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) @ £22.80 y tocyn.
  • Grwwpiau o 10 neu’n fwy ( Ffoniwch y Swyddfa Docynnau Ar 02920 878444):20% i ffwrdd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Wedi’i ganslo