Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Steve Hackett Genesis Greats, Lamb Highlights & Solo - LLEOLIAD A NEWID DYDDIAD

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

25ain Medi 2023:  Y gitarydd chwedlonol Steve Hackett yn cyhoeddi oedau ei daith 2024 yng ngwledydd Prydain: Steve Hackett - Genesis Greats, Lamb Highlights & Solo.  Mae’r daith yn mynd i bymtheg oedfan drwy hyd a lled gwledydd Prydain ac yn dod i ben yn Royal Albert Hall Llundain nos Fercher 23ain Hydref. I nodi hanner canmlwyddiant The Lamb Lies Down On Broadway mae Hackett yn cynnwys detholiad o uchelfannau o’r albwm eiconig yma gan Genesis. 

Roedd canu gitâr bythol Steve Hackett yn rhan o wead catalog Genesis o albymau clasurol drwy gydol y saith degau. Mewn blynyddoedd diweddar mae yntau a’i reng eithriadol, sef Roger King (allweddelli), Nad Sylvan (llais), Jonas Reingold (bas, llais yn gefn), Rob Townsend (sacsoffon, ffliwtiau, allweddelli dros ben) a Craig Blundell (drymaiu) wedi dod â llawer o’r albymau yma yn eu holau i’r neuadd gyngerdd, yn fawr eu clod. Bydd y gwestai arbennig, Amanda Lehmann, ar y gitâr a’r llais ar hyd y daith yng ngwledydd Prydain.  Bu selogion lawer hefyd yn gofyn am gynnwys rhagor o draciau o The Lamb.  Pa ffordd well o ddathlu hanner canrif o’r albwm hynod yma na chynnwys detholiad o Uchelfannau Lamb ochr yn ochr â pheth o waith solo gorau Hackett a Mawrion Genesis rhy dda i’w colli.

“I’m hugely looking forward to the 2024 UK tour,” says Steve Hackett, “including ‘The Lamb Lies Down on Broadway’ favourites as well as other iconic Genesis numbers along with solo gems. It’ll also be exciting to return to the wonderful Royal Albert Hall!”

STEVE Hackett Ar-lein:
www.hackettsongs.com
www.facebook.com/pages/Steve-Hackett/123101228589
www.twitter.com/HackettOfficial
http://hackettsongs.com/tour.html 

______________________________________

Utilita Arena Caerdydd - polisi bagiau/mynediad ar gyfer 2024  

  • I’w gwneud yn gynt i bawb fynd i mewn, mae’n well peidio â dod â dim bagiau i’r oedfan.
  • Os oes gofyn i chi ddod â bag, dim ond un bag bach yr un a ganiateir, a rhaid iddo beidio â bod yn fwy na maint A4 (29x21x15cm)
  • Does gan yr oedfan ddim cyfleusterau i gymryd unrhyw fag mwy na’r maint a ganiateir sef 29x21x15cm.  Stafell gotiau (am gost i bob eitem) i gotiau, ac i bethau llai (o fewn y maint a ganiateir). Stafell gotiau (am gost i bob eitem) i gotiau, ac i bethau llai (o fewn y maint a ganiateir).
  • Mae camau diogelwch yn eu lle, a gwirio bagiau pan gyrhaeddwch chi.
  • Mae gwybodaeth bellach cyn eich ymweliad i’w chael yn yr adran Cwestiynau Mynych o wefan Utilita Arena Caerdydd, yma  https://bit.ly/UACfaq24

 
  • Prisa safonol (uchafswm o 6 tocyn fesul trafodiad): £48.00 | £52.50 | £62.50

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

CYFYNGIADAU AR AILWERTHU TOCYNNAU:

  1. Trwydded bersonol, ddiddymadwy yw eich tocyn a deil i fod, bob amser, yn eiddo’r hyrwyddwyr.  Rhaid rhoi’r tocyn hwn i’r hyrwyddwyr os gofynnir amdano.
  2. Gwerthir eich tocyn/nau gan yr hyrwyddwyr yn uniongyrchol i chi, y cwsmer.  Diddymir unrhyw docynnau a brynir gan fusnes neu fasnachwyr sy’n torri amodau a thelerau gwerthu tocynnau. Drwy dderbyn yr amodau a’r telerau hyn rydych yn cadarnhau eich bod yn gwsmer.
  3. Bydd eich tocyn/nau yn ANNILYS AR UNWAITH os cânt eu hailwerthu NEU EU CYNNIG I’W GWERTHU oni bai bod y gwerthiant drwy sianelau ailwerthu swyddogol yr Artist fel y’u hysbysebir, neu gyfnewid rhwng selogion asiant tocynnau (lle bo’n berthnasol).  Nid yw tocynnau a werthir drwy drydydd person a safleoedd gwerthu diawdurdod eraill, gan gynnwys mannau ocsiwn ar lein, yn ddilys ar gyfer mynediad.  Mae ailwerthu tocyn yn ei wneud yn annilys a gall arwain at wrthod mynediad.
  4. Cyfyngir gwerthiannau tocynnau i 6 y pen.
  5. Dim ond tocynnau a brynir drwy asiantaethau tocynnau cydnabyddedig sy’n ddilys ar gyfer mynediad.  Ceidw’r oedfan yr hawl i wrthod mynediad.
 
 

Ddechrau 1971 yr ymunodd Steve Hackett â Genesis ac ennill bri drwy’r gwledydd yn gitarydd yn rheng clasurol y band ochr yn ochr â Peter Gabriel, Tony Banks, Mike Rutherford a Phil Collins. Roedd canu gitâr cywrain Hackett yn elfen allweddol yn albymau Genesis o Nursery Cryme (1971) i Wind And Wuthering (1977) gan gynnwys y Selling England By The Pound eiconig.

Ar ôl iddo adael Genesis ddiwedd 1977 dangosodd gyrfa solo Hackett, ac iddi bellach fwy na deg albwm ar hugain, ei amryw ddoniau rhyfeddol ar y gitâr trydan ac acwstig ill dau. Mae Hackett yn enwog ar gorn bod yn gerddor roc aruthrol o ddawnus a dyfeisgar ac yn gitarydd clasurol pencampwriaethol ac yn gyfansoddwr, a chydnabuwyd hyn yn 2010 pan gafodd ei urddo yn Oriel Enwogion Roc a Rôl. Gweithiodd hefyd ochr yn ochr â Steve Howe o YES yn yr arch-grŵp GTR.

Mae cyfansoddiadau Hackett dan ddylanwad llawer o genres, yn cynnwys jazz, clasurol a chanu’r felan. At ei weithiau stiwdio The Night Siren (2017) ac At The Edge Of Light (2019) chwiliodd Hackett hefyd ddylanwadau cerddoriaeth y byd. Ar deithiau diweddar gwelwyd Hackett yn dathlu ei gyfnod gyda Genesis gan gynnwys sbloets o daith yn 2018 lle gwireddodd uchelgais ers tro byd sef perfformio gweithiau Genesis yn fyw gyda’i fand a cherddorfa.

Fel y bu hi, roedd y cyfnod clo yn sgil pandemig byd-eang 2020 yn adeg arbennig o greadigol i Hackett. Dechreuodd drwy ryddhau Selling England by the Pound & Spectral Mornings: Live at Hammersmith, recordiad byw o daith aruthrol o lwyddiannus 2019 yn dathlu’r clasur hwnnw gan Genesis ynghyd â deugeinmlwyddiant un o’i hoff albymau solo. Rhoes y clo hefyd gyfle i Hackett sgwennu a recordio dau albwm stiwdio newydd yn 2021: yr hit yn Siartiau Clasurol gwledydd Prydain Under A Mediterranean Sky a’r albwm roc hit Surrender of Silence.

Aeth Hackett a’i fand yn ôl ar daith gyda Genesis Revisited - Seconds Out + More! (2021) a Genesis Revisited - Foxtrot At Fifty (2022). Wedyn daeth yr albwm byw Genesis Revisited - Seconds Out + More!, a ryddhawyd yn 2022, yn albwm byw mwyaf llwyddiannus erioed Hackett a chyrraedd rhif 28 yn Siart Albymau gwledydd Prydain a chyrraedd y safleoedd uchaf erioed yn y siartiau mewn sawl gwlad yn Ewrop.  Yn ddiweddar rhyddhaodd yr albwm byw o daith 2022 - Foxtrot at Fifty + Hackett Highlights – Live in Brighton.  Mae Hackett yn mynd â’r daith Foxtrot at Fifty i’r Unol Daleithiau o’r 3ydd Hydref drwodd i’r 18fed Tachwedd.