Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Beverley Knight: 50 - LLEOLIAD A NEWID DYDDIAD (O 19/10/23)

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Taith ddathlu i nodi Pen-blwydd Beverley yn Hanner Cant
a’i gyrfa anhygoel

Yn dilyn ei sioe ben-blwydd ddethol yr wythnos nesaf yn Lafayette Llundain a phob tocyn wedi’i werthu, mae Beverley Knight wedi cyhoeddi manylion ei thaith fwyaf hyd yma yng ngwledydd Prydain. Bydd Brenhines Canu’r Enaid Prydain yn perfformio ugain o oedau arbennig iawn ar ben y rhaglen yn rhai o ddinasoedd mwyaf gwledydd Prydain drwy gydol misoedd Hydref a Thachwedd 2023.

Mae Beverley Knight yn un o artistiaid mwyaf cyson gwledydd Prydain ers agos i ddeng mlynedd ar hugain. Mae’r daith yn dathlu ei gyrfa anhygoel dros y blynyddoedd ac ar ben hynny’n nodi ei phen-blwydd carreg filltir yn hanner cant. Dyma hi yn ei hôl gyda’i band byw a gewch chi ddisgwyl noson llawn hwyl lle bydd yn perfformio ei hits clasurol bob un a ffefrynnau’r selogion ochr yn ochr â chaneuon newydd sbon danlli grai.

Meddai Beverley “It’s been a minute! I am so looking forward to finally getting back on the road with my band again! There is nothing like the energy of a live audience showing love in return for you giving them everything you’ve got.”

Cysylltwch â Beverly Knight
Website / Facebook / Twitter / Instagram

______________________________________

Utilita Arena Caerdydd - polisi bagiau/mynediad ar gyfer 2024  

  • I’w gwneud yn gynt i bawb fynd i mewn, mae’n well peidio â dod â dim bagiau i’r oedfan.
  • Os oes gofyn i chi ddod â bag, dim ond un bag bach yr un a ganiateir, a rhaid iddo beidio â bod yn fwy na maint A4 (29x21x15cm)
  • Does gan yr oedfan ddim cyfleusterau i gymryd unrhyw fag mwy na’r maint a ganiateir sef 29x21x15cm.  Stafell gotiau (am gost i bob eitem) i gotiau, ac i bethau llai (o fewn y maint a ganiateir). Stafell gotiau (am gost i bob eitem) i gotiau, ac i bethau llai (o fewn y maint a ganiateir).
  • Mae camau diogelwch yn eu lle, a gwirio bagiau pan gyrhaeddwch chi.
  • Mae gwybodaeth bellach cyn eich ymweliad i’w chael yn yr adran Cwestiynau Mynych o wefan Utilita Arena Caerdydd, yma  https://bit.ly/UACfaq24

 
  • Pris safonol: £28 | £35.50 | £50.50
  • Beverley Knight – Profiad Gwiriad Sain @ £118 
    - Gwylio Beverley Knight yn fyw o un o’r seddi gorau yn y tŷ.
    - Cael dod i wiriad sain dwy gân a sesiwn holi ac ateb dethol gyda Beverley cyn y brif sioe.
    - Cael print celf argraffiad cyfyngedig y daith, wedi’i lofnodi. 
    - Casglu cofrodd laminedig a chortyn gwddw VIP y daith
  • Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) @ £28 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
 

Mae 2023 hefyd yn argoeli bod yn flwyddyn carreg filltir i Beverley a hithau ar ganol gweithio ar ddeunydd newydd i’w halbwm stiwdio cyntaf ers saith mlynedd. Bu ganddi sawl albwm Deg Uchaf, gan gynnwys Voice: The Best Of Beverley Knight gwerthiant platinwm a gwerthodd dros filiwn o albymau yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys pedwar albwm ardystiad aur. Aeth ei halbwm stiwdio diweddaraf Soulsville (rhyddhawyd 2016) yn syth i Ddeg Uchaf gwledydd Prydain, ac roedd dathliad ei chwarter canrif ym myd cerdd i BK25: Beverley Knight with The Leo Green Orchestra at The Royal Festival Hall yn dyst i’w gyrfa o hits.

Mewn blynyddoedd diweddar mae’r brodor o Wolverhampton, Knight, wedi torri cwys aruthrol yn y theatr ar yr un pryd. Ei début yn y West End oedd y brif ran yn The Bodyguard wedyn arwain Memphis: The Musical a enillodd Wobr Tony. Ar gais yr Arglwydd Andrew Lloyd Webber ymunodd â chast Cats, yn chwarae rhan eiconig Grizabella. Gwelodd 2021 Beverley ar flaen The Drifters Girl yn y Garrick Theatre yn ddraig o reolwr The Drifters, a enwebyd am wobr Olivier am y Ddrama Gerdd Newydd Orau, a Beverley am yr Actores Orau.

Yn dilyn haf tra llwyddiannus y llynedd yn chwarae Deloris Van Cater gyferbyn â Jennifer Saunders yn adfywiad Sister Act, roedd Beverley wrth ei bodd o fynd yn ei hôl i Old Vic eiconig Llundain i’r cynhyrchiad newydd o Sylvia. Ar hyn o bryd mae Beverley’n serennu’n fawr ei chlod fel Emmeline Pankhurst, ac fe’i henwebwyd am Actores Orau mewn Rhan Ategol mewn Drama Gerdd yng Ngwobrau Olivier ym mis Ebrill. Mae’r sioe’n cyfuno dawns, hip hop, ffync a chanu’r enaid i adrodd stori chwyldroadol mudiad y Swffragetiaid a chafodd ei henwebu hefyd am y Ddrama Gerdd Newydd Orau a’r Coreograffydd Gorau (Kate Prince).

Ar hyn o bryd mae Beverley ar y sgrîn hefyd bob nos Sadwrn yn un o’r beirniaid ar y panel yn ail gyfres dalent ITV o Starstruck. Mae ei gwaith darlledu ar wahân i’r sioe hit bresennol yma’n cynnwys cyflwyno pedair cyfres o sioe Radio 2 Beverley’s Gospel Nights a dwy gyfres o sioe BBC1 Just the Two of Us. Yn ddiweddar ymddangosodd yng nghast sêr pob copa walltog ffilm gyffrous newydd Amazon Cinderella (2021) a Camilla Cabello yn y rôl deitl.

Yn sgil ei pherfformiadau byw penigamp casglodd lu o selogion enwog dros y blynyddoedd, o David Bowie hyd at Stevie Wonder, cydweithiodd ar lwyfan ac ar record â Prince, Jamiroquai, Bocelli, Take That, Chaka Kahn, Joss Stone a Marvin Gaye. Mae ei pherfformiad o ‘Inner City Life’ gyda Goldie yn Seremoni Gloi Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham y llynedd yn strôc ddiweddar drawiadol.

Mae Beverley yn un o drysorau gwledydd Prydain a dyfarnwyd iddi MBE yn 2007 am wasanaethau i gerddoriaeth ac elusennau Prydain, enillodd dair Wobr MOBO, fe’i henwebwyd deirgwaith yn Fenyw Orau yng Ngwobrau Brit, ddwywaith yn Actores Orau yng Ngwobrau Olivier, ac yn Fenyw Orau yng Ngwobr Gerdd Mercury fawr ei bri.