Ed Gamble: Hot Diggity Dog - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Mae Ed Gamble wedi mân-friwio toreth o gig (meddyliau), ei beipio i gasyn (sioe) ac mae’n dod i fynsen (oedfan) yn eich cyffiniau chi.
Fe fydd yma’r holl refru, rafio a sbaddrio clasurol ar ddull Gamble ond mae ei ben yn iach fel y gneuen. Wir-yr.
“Mesmerically funny and original…consistently eye-wateringly hilarious” ★★★★
Rachel Aroesti, The I
“A Class Act. Comedy Gold” ★★★★
Saffron Swire, Time Out
“Platefuls of stand-up talent…You can bet on Gamble to deliver laughs”
Bruce Dessau, Evening Standard
“Gamble shows masterful comedy skills” ★★★★
Steve Bennett, Chortle
Dyma gyd-westeiwr y podlediad mega-hit arobryn Off Menu gyda James Acaster, y beirniad ar Great British Menu, y pencampwr Taskmaster a gwesteiwr Taskmaster the Podcast, ac mae ei Blood Sugar arbennig ei hun ar gael drwy’r byd yn grwn ar Amazon Prime.
Fe’i gwelir ac fe’i clywir hefyd ar Mock the Week (BBC2), Live At the Apollo (BBC), The Russell Howard Hour (Sky), QI (BBC2), Would I Lie To You (BBC) ac ar foreau Sul ar Radio X ochr yn ochr â Matthew Crosby.
Terfyn oedran a argymhellir: 14+