Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.

 

Mae Neuadd Dewi Sant ar gau i’r cyhoedd hyd nes clywir yn wahanol, mewn grym ar unwaith gan ein bod yn dal at gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf.


Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Holi ac Ateb Ellen Kent - Madama Butterfly a La Bohème

Holi ac Ateb Ellen Kent - Madama Butterfly a La Bohème

MADAMA BUTTERFLY - Dydd Mercher 1 Ebrill, 7.30pm

LA BOHÈME - Dydd Sul 5 Ebrill, 7.30pm

ELLEN KENT <CYNHYRCHYDD A CHYFARWYDDWR> 

Beth all cynulleidfaoedd ei ddisgwyl gan eich cynhyrchiad teithiol 2020 o Madama Butterfly a La Bohème Puccini?

Cynnig sioeau graenus dros ben sy’n mynd â’m bryd ar i ac mae’n dda gen i gynyrchiadau mawr felly teimlad sioe fawr iawn sydd yma heb os.Byddaf yn ceisio rhoi popeth ynddi, o’r setiau hyd at yr artistiaid ar lwyfan, ac rwy’n hoff o ychwanegu pethau.Er enghraifft, yn La Bohème mae yna wledd i’r llygad.Rwy’n gyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd gweledol iawn felly byddaf yn rhoi’r holl gybôl i gynulleidfaoedd.Rhywbeth hardd iawn ydi’r profiad at ei gilydd, ac iddo setiau ysblennydd, godidog.Mae’r llen yn codi ac, yn dibynnu ar yr opera wrth gwrs, rwyf am i’r gynulleidfa deimlo’r ffactor ‘Diawch!’.Rhaid i’r setiau fod yn hardd ac mae’n dda gen i lapio rhywbeth gweledol drawiadol o gwmpas y plot. 

O ddal hynny mewn cof, sut byddwch chi’n llwyfannu La Bohème?

Mae’n digwydd yn y cyfnod Argraffiadol Ffrengig felly mae fy setiau’n ddrych o hynny.Er enghraifft, mae gen i deimlad Chagall hardd ac mae’n wirioneddol syfrdanol.Fe gewch chi’r blas Argraffiadol Frengig hardd yma ac mae popeth yn cael ei wneud i wasanaethu hynny, felly pan edrychwch arno mae braidd fel darlun Argraffiadol.Rwy’n hoff o wisgo fy setiau felly yn La Bohème, er enghraifft, mae’r Act Gynta’n digwydd mewn taflod ac mae yna lond gwlad o bennau tai fel pe taen nhw wedi’u peintio gan un o artistiaid mawr Ffrainc.Wedyn mae’n dda gen i ychwanegu rhywbeth mwy realistig, felly gewch chi ryw fath o ddarlun Argraffiadol ond mae yna ffenestri wedi’u goleuo ac mae gennym fwg yn codi o rai o’r simneiau.Mae gen i sgerbwd dynol - [yn chwerthin] nid un go iawn wrth gwrs – rwyf wedi’i wisgo â het a sgarff.Mae gennym gi ar lwyfan hefyd, band pres, peiriannau eira, effaith carnifal, y caffi a wetars yn rhedeg o gwmpas, stondin farchnad…Mae’n wledd i’r llygad drwyddo draw ac rwyf bob amser yn hoffi tynnu ar y cyfnod mae opera’n digwydd ynddo.Mae gen i Dŵr Eiffel, a godwyd yn ddiweddarach wrth gwrs ond tamaid o drwydded farddonol ydi hwnnw. 

Yn yr un modd, beth allwch chi ddweud wrthym am lwyfannu Madama Butterfly?

Mae’r cysyniad run fath, felly pan gwyd y lle mae yna’r un ffactor ‘Diawch!’.Mae gennym ardd Japaneaidd ar lwyfan gyda phrennau ceirios, effeithiau dŵr ym mhob man, tŷ Japaneaidd go iawn – yr holl gybôl.A gyda llaw, mae’r cefnlenni rwy’n eu defnyddio wedi’u peintio â llaw.Dyna’r ffordd hen ffasiwn o’i wneud, nid y pethau yma wedi’u llungopïo, ac mae’r holl beth fel darlun Japaneaidd hardd.Pan fyddaf yn gwneud rhywbeth, rwy’n seilio’r syniad drwyddo draw ar ddarlun, felly os byddaf yn gwneud Rigoletto arddull y Dad-eni piau hi, os byddaf yn gwneud La Bohème rwy’n defnyddio’r Argraffiadwyr Ffrengig, os mai Madama Butterfly sydd dan sylw celfyddyd Japaneaidd sy’n dylanwadu arno.Yr effaith drawiadol sy’n mynd â’m bryd i. 

Beth, yn eich tyb chi, sy’n peri bod yr operâu neilltuol yma mor hoff gennym?

Does dim dwywaith nad Madama Butterfly ydi’r opera fwyaf poblogaidd drwy’r byd yn grwn.Dyna’r un mae pawb am ei gweld.Ac mae Puccini’n boblogaidd iawn oherwydd ei gerddoriaeth wych.O gofio bod Miss Saigon yn tynnu ar Butterfly a Rent wedi’i seilio ar La Bohème, mae pobl yn eu defnyddio’n feincnodau, yn sylfeini dramâu cerdd modern, sy’n dangos mor gryf ydi’r straeon a’r themâu.Ac yn y gerddoriaeth mae ganddyn nhw hanfod harddwch o’r mwyaf.Mae yna rywbeth ynghylch Puccini, lle mae’n gwneud y darnau gwych hyn o gerddoriaeth sy’n codi croen gŵydd ar eich breichiau.Maen nhw’n treiddio i’ch enaid chi.Mae’r gerddoriaeth yn hoff am ei bod mor fawr, wedyn yn achos yr operâu neilltuol yma Butterfly ydi’r fwyaf hoff yn y byd i gyd a La Bohème ydi fy ffefryn personol i am fod gennych chi’r straeon dwysbigol hyn wedi’u lapio am y gerddoriaeth odidog yma.Mae yna rywbeth pur arbennig ynghylch sgoriau Puccini ac mae’r straeon ynghlwm â nhw wedi’u saernïo’n dra chelfydd.Mae rhywfaint o be mae’r cymeriadau’n ei ganu’n galonrwygol ac mae pobl yn dotio at drasiedi.Yn Butterfly mae gennych chi’r cwbl.Dyma i chi’r stori fach drist iawn gyda’r gerddoriaeth enfawr yma.Mae pobl yn cael eu denu ati oherwydd yr awyrgylch mae’r cyfansoddwr gwych yma’n ei greu.Mae La Bohème yn debyg am ei bod, unwaith eto, yn stori fach drist iawn ac mae iddi gerddoriaeth wych Puccini a munudau sy’n ddwysgigol o’r mwyaf.Mae yna rywbeth ynghylch y ffidlau sy’n codi croen gŵydd arnoch ac yn mynd yn syth i’ch enaid.Ac mae La Bohème, run fath â Butterfly, wedi’i saernïo’n hyfryd o gelfydd.Mae iddi hefyd dipyn go lew o gomedi, sy’n rhywbeth rwy’n hoffi’i amlygu.Dylai opera roi’r cwbl lot i chi - cerddoriaeth wych, straeon gafaelgar – ac mae’r ddwy yma’n cyflawni’r addewid. 

Ymhle maen nhw yn nhrefn amser gwaith Puccini?

Run fath â Verdi, cychwynnodd yntau â’r operâu mawr Beiblaidd eu dull - megis Turandot, er enghraifft.Straeon mawr ydyn nhw, nid dramâu personol o anghenraid.Wedyn newidiodd popeth tua’r 1830au, pan ddaeth realaeth a straeon cartref yn ffasiynol.Neidiodd Puccini ar y drol.Roedd Madama Butterfly wedi’i seilio ar be oedd yn digwydd go iawn, a swyddogion Llynges America yn priodi merched Geisha, wedyn yn dod yn eu holau gyda’u gwragedd Americanaidd.A thrasiedi gartref sydd yn La Bohème ac mae’n realaeth bur.Tlodion sydd yma, yn byw yn y rhannau amddifad o Baris – crefftwyr a beirdd yn llwgu mewn croglofftydd ac yn byw mewn dygn dlodi. 

Ydych chi’n meddwl bod Rent a Miss Saigon wedi agor yr operâu yma i gynulleidfaoedd newydd?

Ydw, yn enwedig yn achos Madama Butterfly.Byddwn bob amser yn sôn am Miss Saigon pan fyddwn yn ei llwyfannu, i demtio cynulleidfaoedd i ddod.Ac, o ran operâu, rwy’n dueddol o fagu cyrchddull theatr gerdd, yn wledd i’r llygad.Mae llu o bobl yn dod i’r sioeau na fuon nhw erioed mewn opera o’r blaen ond maen nhw wedi gweld dramâu cerdd mawr fel Miss Saigon neu Rent.Rwy’n credu’n gadarn mewn agor opera i’r werin a’r miloedd. 

Yn Eidaleg gydag uwchdeitlau y bydd y ddwy sioe, yn hytrach nag yn Saesneg.Ai’r purydd ynoch ydi hynny?

Gas gen i operâu yn Saesneg!Yn hynny o beth, ydw, rwy’n burydd.Dyna chi’n dechrau eu trosi i Saesneg ac mae’r holl sain yn newid.Roedd Puccini, er enghraifft, yn sgrifennu gyda llafariaid Eidaleg a phan fyddwch yn canu mae arnoch angen yr Eidaleg honno yn y llais yn lle goslef gwta Saesneg.Ac mae uwchdeitlau, wrth reswm pawb, yn agor opera i’r werin a’r miloedd ac yn well o lawer na dim ond crynodeb yn y rhaglen.Byddwn yn gwneud hynny hefyd, ond mae’r geiriau a ddefnyddir yn farddonol ac yn wefreiddiol.Mae’r libretti wedi’u sgrifennu’n gampus ac fe gewch chi’r holl deimlad yma’n dod allan o’r geiriau, ac yn gymar iddo’r teimlad sy’n dod allan o’r gerddoriaeth.Rhowch y ddau yna at ei gilydd ac mae’r gynulleidfa’n cael gwell profiad o lawer. 

Be daniodd eich cariad tuag at opera gyntaf?

Fe’m ganed yn India, fy nhad yn wladychwr a mam yn cael y gair o fod yn frenhines opera amatur yn Bombay.Roedd mam wrth ei bodd yn cynhyrchu ac yn llwyfannu sioeau – ac roedden nhw’n werth chweil, a dweud y gwir.O’m pedair oed ymlaen fe lwyddodd i’m rhoi i ym mhob un opera.Byddwn wedi fy ngwisgo yn y gwisgoedd gwych yma ac wrth fy modd.Wedyn fe fudon ni i Sbaen a byddem yn mynd i weld yr holl operâu teithiol – [yn chwerthin] na doedden nhw fawr o gop.Wedi dweud hynny, o’m chwech oed allan roedd arna i eisiau bod yn seren ffilm.Ym mhen yr hir a’r hwyr, ar ôl i nhad ymddeol, ymrestrais ym Mhrifysgol Durham i wneud gradd yn y Clasuron i dawelu ei feddwl gan ei fod yn mynnu “You’ve got to have some academic education”.Erbyn hyn dwi ddim yn difaru i mi wneud y radd yna am ei bod wedi rhoi cefndir ardderchog i mi ar gyfer yr holl operâu rwy’n eu gwneud.Ar ôl gorffen fy ngradd es i Ysgol Theatr Bristol Old Vic, hyfforddi’n actores, yn gantores ac yn ddawnswraig ohrewydd, er i mi gael lle yn y Royal Academy Of Music i fynd yn ganwr opera, penderfynais fod hynny’n faes rhy gyfyng. 

Be ddigwyddodd ar ôl i chi adael yr ysgol theatr?

Es yn fy mlaen i actio a dramâu cerdd ac roeddwn i’n llwyfannu theatr blant Ewropeaidd pan ofynnodd Cyngor Dinas Rochester, oedd ymhlith y bobl oedd yn fy nghyllido, i mi lwyfannu sioe blant yng ngerddi Castell Rochester.Wn i ddim o ble mae’r syniadau yma’n dod ond fe’i cefais fy hun yn dweud “I don’t think that’s really suitable but opera might work”.Felly dyna sut y cychwynnodd y cwbl, â chynhyrchiad awyr agored o Nabucco ym 1992 i 7,000 o bobl.Rwy’n cofio’r haul yn machlud dros Afon Medway a’r holl bobl yma’n cael picnics, roedd gennym bebyll champagne, sêr canhwyllau, yr holl sioe, a dyma feddwl:“This is what I want to do.It’s fantastic.I’m going to do opera.”Ers hynny fe fu’n gyfres o anturiaethau gwych. 

Beth, yn eich tyb chi, ydi pwysigrwydd mynd ag opera i gynulleidfaoedd rhanbarthol?

Rwy’n berson eitha greddfol felly, er nad ystyriais y peth hyd at ei ben, roeddwn yn gwybod ym mêr fy esgyrn y byddai cynulleidfaoedd yn y rhanbarthau yn newynog am opera.A pham mynd i Lundain a’r holl safleoedd gwych yma - yn arenâu awyr agored a theatrau mawr hyfryd – drwy hyd a lled y wlad?Roeddwn yn teimlo na wyddai hanner y boblogaeth pa mor wych oedd y gweithiau yma a newidiais i erioed fy syniad amdano.Y rhanbarthau ydi lle mae gofyn i’r sioeau yma fod.Fe fûm droeon yn y Royal Albert Hall a Chastell Leeds, opera awyr agored enfawr yno gydag arddangosfa ceffylau gyfan yng nghanol Carmen, ond rwy’n mynd i oedfannau llai hefyd.[Yn chwerthin] Ond nid rhy fach.Mae’n debyg mai Richmond Theatre ydi’r tŷ lleiaf y bûm ynddo ac mae gofyn cywasgu fy setiau, fel ffeiliau sip y gellir eu sipio i mewn neu eu lledu. 

Yn Madama Butterfly rydych wedi castio plant lleol yn rôl Sorrow.Ydi cynnwys y gymuned leol yn eich operâu yn bwysig i chi?

Rwy’n hoff o wneud popeth rwy’n ymhél ag ef yn ddeniadol, yn gydnaws, yn ddifyrrwch tynnu-pawb-i-mewn.Pan fydd plant wedi’u sgrifennu mewn operâu, wrth reswm pawb mae arnaf angen plant ynddyn nhw ac rwyf bob amser yn hoff o ddefnyddio plant lleol lle gallaf.Rwy’n defnyddio Stagecoach ac yn cynnwys y cymunedau drwy hyd a lled gwledydd Prydain ac Iwerddon ers 1994, pan ddechreuais fynd â chynyrchiadau ar daith.Mae hyd yn oed y ci yn La Bohème yn dod o’r gymuned leol.

Ymuno â'r rhestr bostio