Beethoven Magic Peter Hewitt!
Dyma’r datganiad Beethoven swynol diweddaraf gan y pianydd o fri, Peter Hewitt.
Meddai Peter: “Mae’n symudiad Presto byr iawn o’r 25ain Sonata i’r Piano. Yn bendant yn Beethoven mewn tymer da – mwynhewch!”
Mae'r fideo isod yn cynnwys symudiad olaf mawreddog Sonata’r Storm - Der Sturm Sonata op 31 Rhif 2 yn D leiaf – Sonata rhif 17 i’r Piano gan Beethoven.
Dwedodd Peter: "Mae'n ddarn gwych a glywais gyntaf mewn datganiad piano a ddarlledwyd yn fyw o St George's yn Brandon Hill ym Mryste, datganiad a roddwyd gan y pianydd John Lill flynyddoedd lawer yn ôl yn yr 80au. Yn rhyfedd iawn, dwi wedi dod i nabod John yn dda iawn ac mae e wastad wedi bod yn gefnogol iawn o'm cerddoriaeth – yn fy nghanmol lawer gormod dwi'n siŵr! Yn rhyfedd hefyd, yn ddiweddarach eleni ym mis Rhagfyr, rwy'n chwarae datganiad yn yr un lleoliad a fydd yn cynnwys Kreutzer Sonata Beethoven! Mae'n ddoniol sut mae pethau'n dod rownd mewn cylch weithiau. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r symudiad hudol hwn."