Aurora Orchestra – Podlediadau, Rhestrau Chwarae a Ffeithiau Difyr
Yn Neuadd Dewi Sant, rydym yn sylweddoli, a chithau’n selogion cerddoriaeth glasurol, eich bod hwyrach wedi codi tocynnau i weld Aurora Orchestra (cliciwch y ddolen i weld cyngherddau ar lein) nos Lun 18 Mai 2020. Carem ddiolch i chi am ddal i’n cefnogi ni ac am eich amynedd ar yr adeg anodd yma gan mai canslo’r cyngerdd yn unol â chanllawiau’r llywodraeth oedd yr unig ffordd y gallem ymorol am iechyd a diogelwch y gynulleidfa, y staff, y cerddorfeydd a’r unawdwyr.Felly, i liniaru rhywfaint ar eich siom rydym wedi creu llond gwlad o bethau tan gamp i’ch cadw chi’n ddiddan.
Gweler y ddolen ganlynol i roi prawf ar eich gwybodaeth â’n cwis cerddoriaeth ac i wrando ar ein rhestr chwarae Spotify – y ddau wedi’u seilio ar y repertoire y byddai’r Aurora Orchestra wedi’i berfformio.Mae yma hefyd daflenni ffeithiau cyfareddol ar y cyfansoddwyr a’r darnau, pecyn addysg i Gyfnodau Allweddol 1, 2 a 3; podlediad tri darn difyr dros ben, yn ogystal â fideos gan Jonathan James a Nicola Benedetti yn lle’r sgwrs cyn y cyngerdd.Pob hwyl!