Digwyddiadau yn Neuadd Hoddinott
Noson yng nghwmni Maxim Rysanov a BBC NOW
Dydd Iau 23 Mehefin 2022, 7.30pm
BBC Neuadd Hoddinott, Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, Caerdydd
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Maxim Rysanov - arweinydd/fiola
Bydd yr arweinydd a’r fiolydd Prydeinig-Wcreinaidd, Maxim Rysanov, yn ymuno â BBC NOW ar gyfer noson o gerddoriaeth Prokofiev a Taneyev yn Neuadd Hoddinott y BBC.
Mae Symffoni Glasurol wefreiddiol Sergei Prokofiev yn un o'i weithiau mwyaf poblogaidd, a does dim angen llawer o gyflwyniad arni. Er ei fod yn fyr, mae'r gwaith hoff hwn yn arddangosiad tanbaid o rymoedd diymhongar 'cerddorfa glasurol' ac mae'n ddewis poblogaidd ymysg gwrandawyr ledled y byd. Efallai fod y cyfansoddwr o Brydain, Gabriel Prokofiev, yn llai adnabyddus. Bydd ei goncerto ef i'r Fiola yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU heno.
Mae ffrind mwyaf ffyddlon Tchaikovsky, Sergei Taneyev, hefyd yn gyfansoddwr meistrolgar yn ei rinwedd ei hun, ond mae ei waith yn gymharol anadnabyddus o’i gymharu. Mae ei Bedwaredd Symffoni, sydd wedi’i chyflwyno i Glazunov, yn dangos ei feistrolaeth o wrthbwynt, arddull urddasol a sgiliau gwych o ran datblygu ei syniadau cerddorol. O’i delynegiaeth, ei fawrhydi a’i optimistiaeth, i’w chwareusrwydd egnïol, ei arwriaeth aruthrol a’i liwiau cerddorfaol disglair, mae’r campwaith hwn yn ddiweddglo perffaith i unrhyw gyngerdd.
Mae’r arweinydd a’r fiolydd Prydeinig-Wcreinaidd, Maxim Rysanov, yn camu i'r llwyfan fel arweinydd ac unawdydd ochr yn ochr â BBC NOW ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn achlysur arbennig
- Pris Safonal: £15.00
- Tocyn teulu (Opsiwn 1) - 1 Oedolyn ac 1-2 o blant dan 16 oed: £15.00
- Tocyn teulu (Opsiwn 2) - 2 Oedolyn a 2-4 o blant o dan 16 oed: £20.00
- Myfyrwyr: £5.00
- Dros 60 | Pobl anabl ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): £13.50
- Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): 2 gredyd
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Côr Bach Caerdydd
Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf 2022, 7.30pm
BBC Neuadd Hoddinott, Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, Caerdydd
Côr Bach Caerdydd
1962-2022
Ym 1962 y sefydlwyd y côr, i hybu cerddoriaeth Bach yn y ddinas, a dros y trigain mlynedd ers hynny perfformiodd holl brif weithiau Bach.At hynny mae gan y côr repertoire eang ac mae’n dal i chwilio cerddoriaeth newydd yn ogystal â hen ffefrynnau.Hyd heddiw mae’n un o’r corau amatur blaenllaw yng Nghymru.
Da o beth ydi ein bod, yng nghyngerdd ein Jiwbilî Diemwnt, yn perfformio St John Passion, a ystyrir gan lawer y mwyaf arddunol a dramatig o blith gweithiau Bach.
Dan arweiniad y cyfarwyddwr cerddorol Stephen Moore mae gennym gymanfa wych o unawdwyr:
Paul Smy fel yr efengylwr, Peter Edge fel Christus, Jamie W Hall fel Pilate, yr uwchdenor Kieron-Connor Valentine, y tenor Guy Withers a’r soprano Gail Pearson.I gyfeiliant British Sinfonietta, mae hwn yn addo’n deg bod yn ddathliad cymwys a ninnau’n edrych ymlaen at flynyddoedd eto lawer o gerddora yn y ddinas.
- Pris Safonol: £20.00
- Myfyrwyr: £12.00
- Dan 16 oed: AM DDIM
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Tony Adams: Sober Not Sombre - WEDI'I GANSLO
Dydd Llun 16 Mai 2022, 7.30pm
BBC Neuadd Hoddinott, Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, Caerdydd
Noder, mae’r digwyddiad hwn WEDI’I GANSLO. Os ydych wedi talu â cherdyn credyd/debyd, byddwch yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig. Os ydych wedi prynu drwy ddull arall, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 rhwng Dydd Llun-Dydd Gwener, 9.30am a 5pm.
_______________________________________________________________
Tony Adams | |
Ian Ridley | newyddiadurwr ac ysgrifennwr |
Dyma Tony Adams yn agor ei galon yn ddi-flewyn ar dafod.
Arweinydd pwerus Lloegr, tra’n gapten ysbrydoledig dros Arsenal, dyrchafodd ddeng tlws dros gyfnod o dri degawd, mae Adams yn un o fawrion pêl-droed Saesnig.
Oddi ar y cae chwarae, cydnabyddodd ei fod yn alcoholig, ac mewn sobrwydd sefydlodd y clinig Sporting Chance sy'n parhau i helpu dynion a menywod o’r byd chwaraeon gyda materion dibyniaeth ac iechyd meddwl.
Yn ddoniol wrth drafod pêl-droed, ac yn ddoeth ar faterion ehangach, bydd Tony yn cyflwyno ei brofiad yn ddadlennol ac yn ddifyr fel na all unrhyw ffigwr arall o’r byd chwaraeon.
Taith wedi'i chynhyrchu ar y cyd â Jewson.
- Pris Safonol: £33.00
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.