Datganiad gan y rheolwr ynghylch canslo a gohirio sioeau
Helô bawb,
Gobeithio bod popeth yn iawn a’ch bod yn cadw’n ddiogel.
Diolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod anodd yma. Oherwydd y sefyllfa sydd ohoni o ran iechyd y cyhoedd yn sgîl y coronafeirws, rydym yn dilyn canllawiau’r llywodraeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol a chan hynny mae’r oedfan ar gau nes clywir yn wahanol.
Golygodd hyn ganslo sawl cyngerdd, ond lle bynnag y bo modd gwnaethom ein gorau glas i ad-drefnu’r sioeau fel y gallwch gael blas ar y difyrrwch amrywiol rydych wedi codi tocynnau i’w weld.
Cofiwch fwrw golwg ar ein gwefan a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol bob hyn a hyn i weld y newyddion diweddaraf am sioeau gan gynnwys dyddiadau wedi’u had-drefnu, a byddwn yn anfon negeseuon e-bost atoch ynghylch eich archebion.
Os canslwyd eich sioe, cewch ad-daliad i’r cerdyn credyd neu ddebyd a ddefnyddioch i godi tocynnau. Os taloch ag arian parod neu â thocynnau anrheg, daliwch afael yn eich tocynnau a’u dychwelyd yn bersonol i’r Swyddfa Docynnau, ond nid cyn iddi fod yn ddiogel gwneud hynny pan fydd y cyfnod yma o gyfyngiadau symud ar ben. Fodd bynnag, os gohiriwyd eich sioe, daliwch afael yn eich tocynnau gan y byddan nhw’n ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch ganiad i rif ein Swyddfa Docynnau dros dro (sylwch na allwn ymateb i bost llais a thestunau ar y rhif symudol dros dro hwn) ar 073 9179 1934. Diolch am eich amynedd oherwydd fe fydd y linell yn brysur, ac ni all dderbyn negeseuon testun na negeseuon llais.
Cymrwch ofal, a dymuniadau gorau gan bawb ohonom yn y Neuadd.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi’n ôl i Neuadd Dewi Sant cyn bo hir iawn.
Giles Ballisat
Rheolwr y Celfyddydau a Theatrau – Neuadd Dewi Sant