Canllawiau Mynediad i Gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant
Mae Neuadd Dewi Sant, un o bennaf oedfannau perfformio Caerdydd, ym man siopa newydd fywiog y ddinas, Dewi Sant.
Ers 15fed Hydref, mae’r Aes a’r cyffiniau yn fan i gerddwyr yn unig; rhwng deg o’r gloch y bore a hanner nos, saith niwrnod yr wythnos, ni chaiff yr un cerbyd fynd yno. Yn sgîl y newidiadau yma, ynghyd â’r seddi newydd, y goleuo a’r gelfyddyd gyhoeddus, mae yma strydwedd sy’n wledd i’r llygad ac sy’n creu amgylchfyd bywiocach a mwy diogel i’r rheini sy’n rhoi tro am y ddinas, neu’n byw ac yn gweithio ynddi.
Ymorolodd Cyngor Caerdydd hefyd am roi’r newidiadau ar waith er mwyn gwella cyfleusterau mynediad i gwsmeriiad, gan roi lle i gyngherddwyr triw’r Neuadd ddal i gael blas ar ddod i’r oedfan a’i defnyddio.
Canllaw ydi’r dudalen yma, sy’n cynnig gwybogaeth am fynediad i ganol y ddinas a chyrraedd yr oedfan.
1. Parcio
Y maes parcio nesaf at Neuadd Dewi Sant ydi maes parcio Dewi Sant.
Bwriwch olwg ar y tabl isod.
• Parcio diogel pedair awr ar hugain.
• 2000 o lefydd, 140 wedi’u dynodi i’r anabl.
• Mynediad i faes parcio Dewi Sant o’r Aes drwy Arcêd yr Aes ar gael tan hanner awr wedi hanner nos.
• Mynediad pedair awr ar hugain i faes parcio Dewi Sant o Sgwâr Stryd y Bont y mae mynediad iddi drwy Stryd yr Allt a Stryd Tredegar.
• Cofiwch fod mannau mynediad eraill i’r ganolfan siopa’n cau awr ar ôl i’r siopau gau.
• Bydd cilfan barcio newydd i’r anabl yn Stryd Tredegar I dri char yn ychwanegu at y llefydd parcio sy’n bod i’r anabl yn y ddinas.
Meysydd parcio eraill gerllaw (o fewn 500m)
MAES PARCIO |
LLEFYDD |
LLEFYFF I'R ANABL |
John Lewis |
550 |
21 |
Dewi Sant |
2000 |
Llefydd i’r anabl ar gael |
NCP Lôn Great Western (Stryd Wood) |
508 |
4 |
NCP Stryd Pellett |
292 |
8 |
NCP Stryd Adam |
500 |
23 |
NCP Cardiff Rapports |
127 |
2 |
Talu a Dangos yr Orsaf Ganolog |
426 |
20 |
NCP Heol y Porth |
334 |
4 |
Stadiwm Caerdydd |
78 |
2 |
2. Teithio mewn Tacsi
Mae tacsis yn gallu gollwng a chodi cwsmeriaid yn Stryd Wharton (mae Waterstones a Howells i’w cael ym mhen y stryd), sydd tua chan medr o’r oedfan.
Mae tua 400 o’r o dacsis trwyddedig yn y ddinas wedi’u cofrestru’n hygyrch i’r anabl (Tachwedd 09). Mae’r rhain ar gael gan:
Dragon, Uned 5 Heol Martin, Stad Ddiwydiannol Tremorfa, Caerdydd. CF24 5SD. 029 2033 3333.
Capital Cabs, Uned 8, Canolfan Fusnes Mellyn Mair, Gweithdai Heol Lamby, Caerdydd, De Morgannwg CF3 2EQ. 029 2077 7777.
Premier, Uned 9, Plas Wroughton, Trelái, Caerdydd. CF5 4AB. 029 2055 5555.
3. Teithio ar y Bws
Mae Neuadd Dewi Sant yng nghalon union y ddinas a chan hynny mae cyn hawsed ag y bo modd mynd iddi gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r safleoedd bysus nesaf i’w cael yn:
• Heol Pont yr Aes
• Ffordd y Brenin
• Heol Santes Fair
• Ffordd Churchill
• Stryd y Gamlas
• Heol y Brodyr Llwydion
• Teras Bute
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.cardiffbus.com
neu Traveline teleffon 0300 200 22 33
www.traveline-cymru.info
4. Parcio a Reidio
Diolch i gyfleusterau Parcio a Reidio Caerdydd mae’n haws fyth teithio i ganol y ddinas. Mae bysus Parcio a Reidio yn mynd bob chwarter awr sy’n ymorol eu bod yn cynnig gwasanaeth cyflym ac aml.
Cyfleuster |
Lleoliad |
Mannau codi a gollwng |
Diwrnodiau’r gwasanaeth |
Cost |
Dwyrain |
Cyfnewidfa Pentwyn - A48 (Rhodfa’r Dwyrain ) cyf llyw lloeren: CF23 8HH |
Ffordd Churchill |
Llun - Gwener – Y bws cyntaf o’r maes parcio 07.17, y bws olaf o ganol y ddinas 19.30 Sadwrn – Y bws cyntaf o’r maes parcio 08.02, y bws olaf o ganol y ddinas 19.00 |
Cŵn Caer 1 person - £2 *Cynnig Cŵn Caer: Parcio cyn 8.30am Llun-Gwener a thalu dim ond £2/3. |
Gorllewin |
Stadiwm Dinas Caerdydd cyf llyw lloeren: CF11 8EG |
Stryd y Gamlas |
Llun - Gwener: 8.24am - 6pm |
|
De |
Neuadd Sir Caerdydd (Bae Caerdydd) cyf llyw lloeren: CF10 4UW |
Stryd y Gamlas |
Sad: 9am - 6pm |
Tocyn Diwrnod 1 person - £4 |
5. Teithio ar y Trên
Mae gorsafoedd trenau Caerdydd Ganolog a Stryd y Frenhines ill dwy o fewn gwaith cerdded pum munud o Neuadd Dewi Sant. I gael rhagor o wybodaeth am deithio ar y trên ewch i: www.arrivatrainswales.co.uk neu roi caniad i 08457 48 49 50.
6. Y Ganolfan Shopmobility
Mae Canolfan Shopmobility Caerdydd yn awr i’w chael ym maes parcio newydd Dewi Sant ar lefel tri.
Oriau agor: Llun - Gwener: 9am - 7.00pm; Sadwrn: 9am - 6.00pm; Sul: Ar gau
Caiff cwsmeriaid fenthyg sgwteri am hyd eu hymweliad. Gan eu bod yn cael eu darparu o ran cymwynas, fel arfer mae’r cwsmer yn cyfrannu at y gost. Codir prisiau maes parcio Dewi Sant am lefydd parcio cwsmeriaid shopmobility.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Dewi Sant ar: 029 2039 9355.