WEDI'I GANSLO - Kidz Bop – Taith y Byd
Dydd Llun 29 Mawrth 2021, 6.00pm
KIDZ BOP, TAITH Y BYD – DIWEDDARIAD: Iechyd a diogelwch ein selogion ydi ein pennaf ofal. Yn dilyn cyngor y llywodraeth, rydym wedi dod i benderfyniad anodd, sef canslo rhan y Deyrnas Unedig o Daith y Byd KIDZ BOP oedd yn yr arfaeth ym misoedd Mawrth/Ebrill 2021. Ad-dalir eich tocynnau’n ddiofyn o fewn ychydig ddiwrnodiau. A hithau’n adeg mor anodd, roeddem yn teimlo mai’r peth gorau i’w wneud oedd rhoi ad-daliad llawn i’n selogion, yn hytrach na disgwyl i selogion ddal eu gafael yn eu tocynnau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch man prynu. Edrychwn ymlaen at ganu a dawnsio gyda’n selogion unwaith eto pan fydd hynny’n ddiogel.
Tocynnau gafodd eu prynu yn Neuadd Dewi Sant – os ydych wedi talu â cherdyn credyd/debyd, byddwch yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig. Os ydych wedi prynu drwy ddull arall, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07743 839816 / 07391 791934 (peidiwch â gadael negeseuon llais neu yrru negeseuon testun gan na allwn ymateb iddynt ar y rhif symudol dros dro hwn) rhwng Dydd Llun-Dydd Gwener, 9.30am a 4pm.
Wedi’i ganslo