Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

HASBRO STARS LIVE – yn Serennu Mr Potatohead

Mae’r llwyfan yn barod at y sioe ddawn fwya erioed! Am y tro cynta gyda’i gilydd, welwn ni berfformiadau cerdd anhygoel gan eich hoff Arwyr Teledu, YN FYW ar lwyfan!

Bydd Ben a Holly’n canu rhai o’u hoff ganeuon gyda help gan y dylwythen deg Nani Plwm.

Fe fydd arwyr PJ Masks, yn syth ar ôl antur newydd, yn dangos i’r plantos y gallan nhw fod yn arwyr hefyd!  Ac yn ola, ond nid lleia, mae gennym ni berfformiad arbennig iawn gan Fy Merlen Fach fydd yn gwneud i garnau pob merlyn stompio.

Ac fe fydd Mistar Pen Taten a Musus Pen Taten yn dod at ein prif actau – wedi mopio’u pennau o fod yn llywyddu’r sioe ac mae ganddyn nhw ambell i beth annisgwyl yn eich aros chi hefyd. Fe fydd Mistar Monopoli’n gwneud yn siwr fod popeth yn ei le’r tu ôl i’r llwyfan a does dim dwywaith na fydd yn taro’i big i mewn i sioe lwyfan y flwyddyn!

Gewch chi hwyl, chwerthin llond bol a hylltod o ganu a dawnsio yn y sioe lwyfan fyw heb ei hail sy’n heigio gan gymeriadau, ar ei Thaith yn Ewrop.

Mae gan y sioe yma reng gref o frandiau:  

  •   PJ Masks 
  •   Mr Potato Head (o Toy Story) 
  •   My Little Pony  
  •   Ben & Holly 
  •   Monopoly Man 

Oed a argymhellir:  3+

 
  • Oedolion: £18.00
  • Plant: £17.00
  • Teulu o 4: £68.00
  • Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar02920 878444):Seddi Rhes P @ £17.00 pob tocyn. 

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 

Logo Hynt

 

 
Bwciwch Nawr