Sing the Musicals
Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf 2022, 5.30pm
Bwciwch NawrCyfarwyddwr: Cerddorol:Simon Curtis
Piano: Rhiannon Pritchard
City Voices Concert Orchestra
Os ydych chi’n DOTIO at ddramâu cerdd, dyma’r union gyngerdd i chi - mae yma rywbeth i bawb, yn hen ac ifanc.Mewn rhaglen sy’n amrywiaeth o ddramâu cerdd hen a newydd, glywch chi ganeuon o West Side Story, Hairspray, A Star is Born, Mary Poppins, Billy Elliot, Carousel, Jersey Boys, Wicked, Frozen 2, Sister Act, Wizard of Oz a llond gwlad at hynny.Mae’r cyngerdd hefyd yn cynnwys teyrnged i Stephen Sondheim, fu farw ddiwedd 2021.
Fel y dywed y gân, "Let's start at the very beginning" sy’n mynd â ni’n ôl i 2008 a chyngerdd début côr newydd City Voices Cardiff o’r enw SING THE MUSICALS.A ninnau’n mynd yn ein holau at ein rhaglenni haf ar ôl ein habsenoldeb gorfodol, roedd i’w weld yn lle da i ailgychwyn, bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach.Gobeithio y gallwch chi ddod atom.
Rydym wrth ein boddau o fod yn gefn unwaith eto i’n ffrindiau hoff yn Forget-Me-Not Chorus sef ein dewis elusen.Ers 2011 mae’r Corws – un o elusennau dementia blaenllaw Cymru – yn trefnu sesiynau canu wythnosol i bobl ac arnyn nhw dementia a’r rheini sy’n eu cefnogi. Heddiw, mae dros fil o bobl – o fileniaid i ganmlwyddiaid – yn cymryd rhan yn eu sesiynau canu bob wythnos, o Fôn i Fynwy ac erbyn hyn yn bellach draw hefyd.
Mae’r Forget-me-not Chorus yn gofresteredig gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr (Elusen Rhif 1151812).
Bydd y raffl a’r casgliad ymadael o’r cyngerdd yma’n mynd tuag at yr ymdrechion codi arian ar gyfer ein dewis elusen.
Tocyn Plentyn Ychwanegol £6.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.