Tim Peake: My Journey to Space
Dydd Llun 15 Tachwedd 2021, 7.30pm
Bwciwch NawrClymwch eich gwregysau diogelwch yn dynn amdanoch – mae reid colli cylla’n eich aros chi.
Un o ofodwr yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ydi Tim Peake. Ym mis Rhagfyr 2015, ef oedd y gofodwr cyntaf o Brydain i ymweld â’r Orsaf Ofod Ryngwladol i gerdded yn y gofod (a rhedeg marathon!) ar yr un pryd â chylchdroi’r Ddaear.
Dewch ato’n awr ar daith arwrol a gwefreiddiol i’r Orsaf Ofod Ryngwladol yn rhan o’i daith gyntaf erioed yng ngwledydd Prydain.
Tim fydd eich tywysydd personol drwy fywyd yn y gofod, i gael mynd lle na fu neb erioed, gweld lluniau digon i fynd â’ch gwynt chi, a chael gweld ffilmiau anhygoel na welwyd erioed o’r blaen. Mae’n gip cyfareddol ar fywyd go iawn gofodwr: o’r hyfforddi i’r lansio, o gerdded yn y gofod hyd at ddychwelyd, mae Tim yn dadlennu’r cyfrinachau, yr wyddoniaeth a’r rhyfeddodau pob dydd ynghlwm â sut a pham mae bodau dynol yn teithio i’r gofod.
Dyma’ch cyfle chi i rannu ei awch am awyrennu, fforio ac antur, o dreulio noswaith yng nghwmni un o ofodwyr byw mwya’r byd, ac ailddarganfod rhyfeddod y man rydym yn ei alw’n gartre.
“It’s impossible to look down on Earth from space and not be mesmerised by the fragile beauty of our planet” Tim Peake
“Everything you wanted to know about life in space” The Times
“A delightful adventure of understanding of how and why humans journey into space” Robin Ince, The Infinite Monkey Cage
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.