Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Noswaith yng Nghwmni Monty Don

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Treuliwch noson gyda chyflwynydd ac awdur garddio BBC Gardeners’ World, Monty Don, wrth iddo rannu ei angerdd dros erddi a'r rôl unigryw y maent yn ei chwarae mewn ysbrydoliaeth a lles dynol. 

Mae Monty wedi bod yn gwneud rhaglenni teledu ers dros 30 mlynedd ac mae wedi bod yn brif gyflwynydd rhaglen Gardeners’ World y BBC ers 2003. Ers 2011 mae'r rhaglen wedi dod o'i ardd ei hun, Longmeadow, yn Swydd Henffordd.  

Ar gyfer y digwyddiadau unigryw hyn, bydd Monty yn rhannu straeon o'i yrfa mewn garddio, yn manylu ar ei hoff erddi – rhai hynafol a modern, ac yn datgelu sut y syrthiodd mewn cariad â'r byd naturiol. Dysgwch sut y creodd ei ardd hardd yn Longmeadow, yr arferion garddio y mae'n eu hystyried yn rhai mwyaf defnyddiol a phwysig, ac effaith hudolus newid y tymhorau ar bob rhan o'r ardd. 

Gyda rhywbeth at ddant garddwyr profiadol a’r rhai sydd megis cychwyn arni fel ei gilydd, peidiwch â cholli'r cyfle i ymuno â Monty am ddathliad amserol sy'n ysgogi'r meddwl o bresenoldeb byd natur sy'n peri syndod a chysur. Gan herio'r normau, rhannu cyngor ymarferol, ac ateb eich posau garddio, dyma brofiad Monty Don rhagorol. 

 
  • Pris Safonol: £28.00 | £33.00 | £35.00
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): Seddi'r stalau @ £28.00 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr