Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

An Evening with Noel Fitzpatrick

Mae Noel Fitzpatrick yn dychwelyd i'r llwyfan yr hydref hwn gyda sioe newydd sbon a fydd yn plesio pawb sy’n caru anifeiliaid o bob oedran ac unrhyw un sy'n teimlo bod angen rhywfaint o gariad, gobaith a gwella arnynt yn eu bywydau. 

Yn dilyn ei daith hynod boblogaidd yn 2018, mae An Evening with Noel Fitzpatrick yn rhoi cyfle unigryw i gynulleidfaoedd gael golwg manwl ar fyd bionig rhyfeddol Noel a'r anifeiliaid sydd wedi ei ysbrydoli ar hyd y daith. 

Bydd Noel yn rhannu hanesion am lwyddiannau a methiannau, gan ddangos mai cariad yw'r cyfan sy'n bwysig – a sut y gall ein ffrindiau yr anifeiliaid ddysgu gwersi pwysig iawn i ni am fywyd, a all ein gwneud yn well pobl. 

Bydd rhai pethau annisgwyl a syniadau am natur straen a goroesiad er gwaethaf pob disgwyl  - a dyfodol pobl ac anifeiliaid ar ein planed - a fydd yn sicr o wneud i chi oedi a meddwl am eich dyfodol eich hun hefyd.

Mae Noel yn parhau i ymdrechu tuag at sicrhau cymdeithas fwy cariadus a deallgar i bobl ac anifeiliaid - mewn byd sydd angen ei wella nawr yn fwy nag erioed.

 
  • Pris Safonol: £33.00 | £37.00 | £39.00
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): Seddi'r stalau @ £33.00 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr