Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Neil Warnock – Welwn ni chi yno?

Dewch at y rheolwr pêl-droed chwedlonol Neil Warnock, dorrodd sawl record, ac yntau’n sgwrsio am ei yrfa ddihafal a syfrdanol, o flaen cynulleidfa fyw am y tro cyntaf.

Y nifer uchaf o gemau’n rheolwr, un ar bymtheg o glybiau ac wyth dyrchafiad, o glybiau heb fod yn y Gynghrair drowdd i’r Uwch Gynghrair ac ar y ffordd mil o straeon heb eu hadrodd erioed.

Heb flewyn ar dafod, yn arddull ddi-ail a digymar Neil, yn straeon gaiff gennych chwerthin, crïo, ebychu a chwerthin eto.

Gewch chi glywed am yrfa gynnar Neil yn chwaraewr yn y cynghreiriau isaf, yn ymddangos dros dri chant o weithiau, a beth a’i hysbrydolodd wedyn a’i yrru yn ei flaen i lwyddo a chyrraedd y lefel reoli uchaf.

Bydd yn bwrw trem yn ôl ar ei daith anhygoel gyda Dinas Caerdydd, yn sôn yn fanwl am gael dyrchafiad i’r Gynghrair Uwch, ei berthynas ddihafal â’r cadeirydd, y chwaraewyr aeth â’r clwb i fyny a siom hallt eu diraddiad.  Gewch chi ail-fyw’r munudau hynny – rhai o’r dyddiau gorau gafodd erioed ym myd pêl-droed, meddai Neil. 

Yng nghwmni Neil welwch chi rai o uchelfannau ac iselfannau ei gyfnod gyda’r Adar Gleision ar y sgrîn fawr ryngweithiol, rydd le i chi fod yn rhan o’r noson mewn ffordd arloesol heb ei hail.

Glywch chi bopeth am y munudau ffrwydrol a’r digwyddiadau dadleuol, yn mynd â chi’n ôl i’r adeg y digwyddon nhw, yn rhoi i chi’r stori lawn o lygad y ffynnon.

Glywch chi be aeth drwy’i feddwl pan ddaeth wyneb yn wyneb â Fergie, Pep, Jose a Klopp a phwy, yn ei farn o, ydi’r gorau oll. 

Hwyrach y bydd ganddo hefyd air neu ddau i’w dweud am reffarîs mae wedi dod ar eu traws.

Noson ddigyffelyb o sgwrsio a difyrrwch yng nghwmni un o oreuon Sheffield, a dreuliodd dros drigain mlynedd o’i oes ym myd pêl-droed, a chanddo lond gwlad i’w adrodd wrthoch chi. 

Welwn ni chi yno? 

 
  • Pris Safonol: £33.00 | £39.50 | £48.00
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): Seddi'r stalau @ £33.00 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr