Katie Piper: From Surviving to Thriving
Dydd Llun 27 Medi 2021, 7.30pm
Bwciwch NawrEnillodd Katie Piper ei phlwy yng nghalonnau’r cenhedloedd hyn pan ymddangosodd ar raglen ddogfen Sianel 4 a enwebwyd am wobr BAFTA Katie: My Beautiful Face, oedd yn cwmpasu camau cynnar ei gwella ar ôl ymosodiad asid yn 2008.
Bellach, mae’r cyflwynydd teledu a’r ymgyrchwr - ‘eicon ei chenhedlaeth’ medden nhw - mewn lle pur wahanol ar ei hoes: o sefydlu’r Katie Piper Foundation, hyd at lywyddu ei phodlediad wythnosol arobryn ei hun, cyhoeddi llyfrau hunangymorth werthodd fel slecs a dod yn wyneb brandiau harddwch byd-eang eiconig, mae Katie yn ffynnu.
Mae hunanfeddiant Katie a’i chred ynddi’i hun i’w gweld yn ddiymdrech, ond sut y daeth hi at y fan honno?
Yn y digwyddiad byw agosatoch yma, bydd Katie yn sôn am sut y bu derbyn ei sefyllfa yn gyfrwng rhoi lle iddi symud ymlaen, a sut y gallodd ddal i fod yn gadarnhaol hyd yn oed drwy’r adegau anoddaf. Dan rannu awgrymiadau ynghylch sut i feithrin a chynnal hunanhyder, canolbwyntio eich dyheadau a newid sut rydych yn eich canfod eich hun, bydd Katie hefyd yn rhannu dulliau ymarferol o feithrin eich dycnwch eich hun mewn blwyddyn fu’n eithriadol o anodd.
‘For many 2020 has been an incredibly tough year, with lots of hurdles, trials and tribulations. When we endure change, challenge and pain, we are forced to develop new coping mechanisms, to adapt and survive. This is something I had to learn many years ago. I am always asked about confidence - what it means and where it comes from and my answer is always the same - it comes from resilience.
I cannot wait to be back on tour - sharing space, ideas and life lessons with my wonderful audience. I look forward to seeing you all in 2021, for what I hope will be the most rewarding experience for all of us.’
Dewch i dreulio noson yng nghwmni Katie i gael sgwrs onest, ddyrchafol ac amserol ynghylch sut i fod y wedd orau arnoch chi’ch hun mewn byd ansicr.
Plus an optional £1.50 postage fee.
For Hynt tickets, please contact Box Office on 07391 791934. Limited availability – please book early to avoid disappointment.