Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Woman to Woman – Beverley Craven, Judie Tzuke, Julia Fordham ac Rumer

Ar ôl llwyddiant ysgubol eu taith ddiweddaraf a chwaraeodd i dros 35,000 o bobl, dyma Beverley Craven, Judie Tzuke a Julia Fordham yn dod at ei gilydd eto a’r tro yma’n gwadd Rumer i ddod atyn nhw.

Gwêl Woman to Woman gydweithredu dihafal a diamser rhwng pedair o Gantoresau a Chyfansoddwyr Caneuon enwocaf gwledydd Prydain yn perfformio’u senglau hit clasurol a’u halbymau.

Bydd y profiad bythgofiadwy yma’n gyfle i glywed hoff ganeuon gan gynnwys y llwyddiannau ysgubol drwy’r gwledydd Promise Me, Happy Ever After, Welcome To The Cruise, Slow, Holding On, (Love Moves In) Mysterious Ways, Aretha a’r gân atgofus Stay With Me Till Dawn ochr yn ochr â ffefrynnau eraill lawer.

Meddai’r merched, wrth feddwl am y daith i ddod, “We cannot wait to share a stage together, create beautiful vocal harmonies with each other and collaborate on some possible new material.”

Does dim dwywaith na fydd hwn yn gyngerdd gwirioneddol fythgofiadwy ac arbennig.

Pecyn Cwrdd a Chyfarch VIP ar gael.

 
  • Pris Safonol: £41.00 | £48.00
  • Pecyn VIP: £128
    • Seti Gorau
    • Cwrdd a Chyfarch yr artistiaid wedi’r sioe
    • Lithograff wedi ei arwyddo
    • Laminad VIP
    • Cyfle am Ffotograff
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £41 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr