Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Whitney - Queen of the Night

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Yn syth o’r West End, dyma Whitney – Queen Of The Night yn ei ôl yn 2022 i ddathlu cerddoriaeth a bywyd un o gantorion mwyaf ein hoes gyda chwip o gast a band byw digon o ryfeddod.

Mae’r sleifar yma o gynhyrchiad yn traddodi cyngerdd aruthrol bob gafael a ddisgrifiwyd yn “powerhouse performance that delivers on every level…”

Mae’n mynd â’r gynulleidfa ar reid colli cylla hudol drwy dri degawd o hits hiraethus yn cynnwys: I Wanna Dance With Somebody, One Moment In Time, I’m Every Woman, I Will Always Love You, My Love Is Your Love, So Emotional Baby, Run to You, Saving All My Love, How Will I Know, Million Dollar Bill, The Greatest Love Of All a llond gwlad at hynny…

Dewch aton ni i noson rhy dda i’w cholli a phrofi’r sioe deyrnged orau fyw fyd bosib i Whitney Houston ar daith drwy hyd a lled gwledydd Prydain yn perfformio dros gant o gyngherddau bob blwyddyn! 

Cyflwynir Whitney – Queen of the Night gan yr hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw Cuffe and Taylor ar y cyd â Paul Roberts Productions.

 
  • Pris Safonol: £23.00 | £28.00 | £32.50
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444)Seddi'r stalau @ £23.00 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr