Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Tommy Emmanuel nos Mawrth 16 Mawrth 2021 wedi’i ohirio tan nos Sadwrn 5 Mawrth 2022, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Os ydi canu’r gitâr at eich dant chi, Tommy Emmanuel ydi’r gorau gewch chi.
Aeth Tommy heibio i ddigon o gerrig milltir cerddorol i fodloni sawl oes.Neu o leiaf fe fydden nhw’n ddigon pe tai’r math o artist sy’n cael ei wala fyth.Pan oedd yn chwech oed roedd ar daith yn rhanbarthau Awstralia gyda band ei deulu.Erbyn ei ddeng ar hugain roedd yn gitarydd blaen roc a rôl yn rhoi stadia yn Ewrop ar dân.Yn bedair a deugain daeth yn un o’r pump o bobl a enwyd erioed yn Ganwyr Gitâr Ardystiedig gan ei eilun, yr eicon cerddoriaeth Chet Atkins.Heddiw mae’n chwarae cannoedd o sioeau dan eu sang bob blwyddyn, o Nashville i Sydney i Lundain.Tra treuliodd selogion rhif y gwlith flynyddoedd yn ceisio datrys a dynwared techneg Tommy, iddo yntau, dim ond y cyfrwng ydi hi.Ei gyrchddull ydi cân a theimlad yn gyntaf bob gafael, ei gerddoriaeth yn ymgorffori ei ysbryd eneidfawr, ei ymdeimlad o obaith a’i awch am ddifyrru.
Pheidiodd Tommy erioed â dyheu am be sy nesaf.Pan gydnabyddir chi’n eang yn feistr rhyngwladol y gitâr acwstig solo mae galw mawr amdanoch ac arweiniodd hyn at weithio ar y cyd â rhai o’r cantorion, yr awduron caneuon ac, ie’n wir, y canwyr gitâr gyda’r goreuon sy’n fyw heddiw – rhestr sy’n cynnwys Jason Isbell, Mark Knopfler, Rodney Crowell, Jerry Douglas, Amanda Shires, Ricky Skaggs, J.D. Simo, David Grisman, Bryan Sutton, Suzy Bogguss a llawer at hynny.
Y gwestai arbennig ar y daith ydi Jerry Douglas, yn enillydd gwobrau Grammy rhif y gwlith ac yn ganwr amlwg ei le ym mand Alison Krauss, ac mae “Dobro's matchless contemporary master” yn offerynnwr aruthrol o amryddawn a dyfeisgar, a’i arddull ddihafal canu’r tir glas yn diogelu’i safle’n gerddor Americanaidd.Er ei fod yn enwog ar gorn ei ran mewn llond gwlad o wahanol actau, yn unawdydd y mae’n amlwg yn weledydd gwirioneddol.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith - ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934: Seddi'r stalau @ £30.50 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.