Tom Chaplin
Dydd Llun 17 Hydref 2022, 7.00pm
Llun gan: Derek Hudson
Bwciwch NawrAr yr ail o Fedi mae Tom Chaplin yn rhyddhau chwip o albwm newydd, Midpoint, ei gyntaf ar BMG. Ethan Johns gynhyrchodd y casgliad sy’n wefreiddiol o bwll y galon, yn cynnwys tair ar ddeg o ganeuon newydd sbon danlli grai a ganir yn hyfryd ac yn gain.
Yn deirblwydd a deugain, mae Tom Chaplin bellach yn ei gael ei hun mewn man sad. Neu, os mynnwch chi, mewn man canol.
Ar y trac teitl, mae llais Tom yn esgyn, yn tynnu llun dyn wedi drysu, a meddwl am ganol oed yn mwydro’i ben. Dalir y teimladau hyn yn hyfryd mewn ffilm atgofus â Niamh Cusack yn serennu ynddi, a gyfarwyddwyd gan Lucy Bridger. Gwylio YMA.
Dechreuodd Tom sgrifennu’r caneuon newydd yma ddwy flynedd yn ôl pan roes y pandemig ben ar Cause and Effect, taith 2019 Keane. Recordiwyd y caneuon, i gyd ar sylfaen myfyrio a’r dychymyg, o fewn chwe wythnos yn Real World Studios Peter Gabriel yn Bath a The Church Paul Epworth yng ngogledd Llundain.
Tra mae’r caneuon yn rhannu’r cynhesrwydd teimladol a welwyd gyntaf ar albwm solo début Tom The Wave o’r flwyddyn 2016, o ran ei sain mae’r gerddoriaeth newydd yma’n agoriad llygad.
“I was like, wow, these are bare compared to what I’m used to,” meddai Tom. “And it did find it frightening because with Keane records there’s so much layering to thicken things up and fill up the spaces. But this is a sparse record.”
A hynny er gwell, yn rhoi lle i’r iaith a’r llais gyrraedd uchelfannau newydd gogoneddus. Mae’n hiraethlon ac yn fyfyrgar ac yn enillgar i’r carn.
Yn cyd-daro â Tom yn cychwyn ar ei ganol oed, mae Midpoint heb ei ail. “There’s space for something nuanced that explores a part of life that everyone goes through,” meddai Tom. “If I can get some of that across and it can resonate with something people are feeling in in their lives-well, I’d be more than happy with that.”
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.