Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant ar gau i’r cyhoedd hyd nes y rhoddir gwybod ymhellach gan ein bod yn cadw at y cyngor a ddarperir gan Lywodraeth y DU.  Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan. 

Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.

Os oes angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch ni ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm.  Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Todrick Hall

Canwr, rapiwr, actor, cyfarwyddwr, coreograffydd a chymeriad ar y cyfryngau cymdeithasol aml ei ddoniau ydi Todrick Hall, a ddaeth i’r amlwg yn sgìl ymddangos ar American Idol.Mae gan ei sianel YouTube boblogaidd dros dair miliwn a hanner o danysgrifwyr a gwyliwyd y sianel saith miliwn a deugain o weithiau – mae’n cynnwys yn anad dim ganeuon gwreiddiol, cydweithrediadau cerddorol a fflachdorfau wedi’u coreograffu i Beyoncé.Mae Todrick hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar RuPaul’s Drag Race ac ail dymor The Greatest Dancer ar y BBC.

Enillodd Todrick fri yn seren Broadway yn sgìl cyfnodau llwyddiannus yn Chicago, The Color Purple, Kinky Boots, Memphis, a Waitress.Rhoes dro am dros drigain o ddinasoedd drwy’r byd yn grwn ar deithiau dan eu sang Straight Outta Oz, Forbidden a Haus Party ac ennill “Video for Good” VMA 2019 yn gyd-gynhyrchydd gweithredol ar anthem LGBTQ+ Taylor Swift You Need to Calm Down.

Mae ei EP ddiweddaraf Quarantine Queen ar gael ar hyn o bryd ar lwyfannau’r holl gyfryngau a’i albymau gweledol sy’n torri tir newydd ar gael i’w ffrydio drwy youtube/todrickhall, a gallwch ei ddilyn ar Instagram, tiktok, a twitter yn @todrick

 
  • Pris Safonol:  £28 | £38 
  • Pecyn Tynnu Llun VIP am £98

    • Tocyn i un o’r seddi drutaf yn y brif sioe
    • Cael tynnu eich llun gyda Todrick ar ôl y sioe gan reolwr y VIP
    • Cael rhodd dethol VIP Todrick Hall
    • Casglu eich cofrodd laminedig a’ch cortyn gwddw VIP Todrick Hall
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £28 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr