Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 8 Chwefror 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd The Sensational 60s nos Mer 8 Ebrill 2020 7.30pm, wedi’i ohirio tan nos Mer 14 Ebrill 2021 7.30pm, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo Coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Darllen ein cyfweliad gyda Neil Collins wrth iddo siarad â Mike Pender y dyfarnwyd MBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn ddiweddar am ei yrfa ardderchog.
Daw’r sioe fwyaf ar thema’r 60au sy’n teithio’r DU, a’r orau ohonyn nhw, yn ôl i Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd am un noson yn unig gyda chynhyrchiad newydd sbon danlli ar gyfer 2021. Daw The Sensational 60’s Experience â theirawr trawiadol o hel atgofion am y 60au. Aiff y sioe hon sy’n sicr o godi calon â chi’n ôl i ddegawd hudolus y 60au. Cewch noson i’w chofio gan The Sensational 60’s Experience a bydd hi’n amhosib aros yn eich sedd!
Boed yn dod i ailfyw atgofion o’ch plentyndod neu i weld beth mae eich rhieni wedi bod yn ei ganmol dros y blynyddoedd, byddwch wrth eich bodd. Dewch i gael blas ar ffenomena cerddorol y 1960au.Mae hon yn sioe 60au hanfodol ar gyfer 2021.
Gyda Mike Pender (lleisydd gwreiddiol The Searchers, 80TH Birthday Tour) The Fortunes, The Swinging Blue Jeans, The Fourmost a Meet The Beatles gyda The Revolvers. Bydd y caneuon yn cynnwys Needles and Pins, Storm In A Teacup, Hippy Hippy Shake, A Little Lovin, A Hard Day’s Night a llawer mwy. Ewch yn ôl mewn amser i’r adeg pan oedd cerddoriaeth bop ar ei gorau.
BWCIWCH YN GYNNAR I SICRHAU SEDD.
Lluniau o’r chwith i’r dde: Mike Pender MBE, The Fortunes, The Fourmost, Meet the Beatles a The Swinging Blue Jeans.
Grwpiau (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Codi deg a chael un AM DDIM
Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.