The Proclaimers
Ynghyd â Gwesteion Arbennig - John Bramwell
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2022, 7.30pm
Bwciwch NawrBydd 2022 yn gweld y Proclaimers yn ei chychwyn hi am y stiwdio i recordio eu deuddegfed albwm stiwdio, wedyn yn ymddangos mewn gwyliau dros yr haf ac ar daith bymtheg o oedau ar hugain yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon o fis Hydref tan fis Rhagfyr.
Pan ddaeth yr efeilliaid Craig a Charlie Reid i’r fei bymtheng mlynedd ar hugain yn ôl gyda’u halbwm début This Is The Story a’u sengl yn y Tair Uchaf Letter from America roedden nhw’n drawiadol o wahanol. Ers hynny, yn sgil eu hapêl fythol dros genedlaethau, daeth llwyddiant ysgubol i’w rhan drwy’r byd yn grwn.
Mae caneuon y Proclaimers yn ddiamser, yn dal teimladau o bob lliw a llun, wedi’u sgrifennu’n ddwysbigol, yn deimladol ddidwyll, ac iddyn nhw dân gwleidyddol a ffraethineb.Mae eu caneuon yn amlwg eu lle mewn priodasau, angladdau a phopeth rhwng y ddau begwn ac mae yna un gân, o ddechrau’u gyrfa, sy’n morio mewn syrthio mewn cariad dros eich pen a’ch clustiau ac sy’n adnabyddus ym mhedwar ban byd ac sydd bellach yn anthem fyd-eang aruthrol.
Mae’r Proclaimers wedi ennill eu troedle yn yr isfyd lle mae pop, canu gwerin, y don newydd a phync yn mynd benben.Ar hyd y daith bu ganddyn nhw senglau ac albymau Aur a Phlatinwm yng ngwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a Seland Newydd.
Ar Desert Island Discs BBC Radio 4, meddai David Tennant am ei drac cyntaf gan y Proclaimers - "I could have chosen any and every track from this band, probably my favourite band of all time. They write the most spectacular songs, big-hearted, uncynical passionate songs."
Bydd y canwr-gyfansoddwr eiconig John Bramwell yn dychwelyd i’r llwyfan i berfformio caneuon o’i albwm newydd ‘The Light Fantastic’ a rhai clasuron ‘I Am Kloot’
“Great songs, great voice , great playing. Bramwell is the real deal”
- The Sunday Times
“The UK’s finest export”
- New Yorker Magazine
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.