The Classic Rock Show
Tiath y Du 2020
Dydd Mercher 22 Ionawr, 7.30pm
Bwciwch NawrJiwcbocs Gorau Oll Selogion Roc Clasurol!
Daw’r Classic Rock Show yn ei hôl i wledydd Prydain ddechrau 2020 mewn cynhyrchiad byw newydd sy’n dathlu’r gorau oll o blith goreuon Roc Clasurol.
Yn talu teyrnged i lawer o fawrion roc clasurol yr oesoedd, yn oreuon y byd, mae cerddorion The Classic Rock Show yn hyrddio mynd drwy berfformiadau chwedlonol gan Led Zeppelin, Dire Straits, Steely Dan, Eric Clapton, AC/DC, Queen, The Eagles, Fleetwood Mac a The Who a’u tebyg, a llond gwlad at hynny.
Perfformir yn fanwl gywir nodyn am nodyn, gan roi bywyd o’r newydd ar lwyfan i’r recordiadau gwreiddiol eiconig a ddiffiniodd oes, â sioe sain a goleuo gystal bob tamaid.
Yn anthem ar ôl anthem, yn riff ar ôl riff, yn unawd ar ôl unawd - mae'r Classic Rock Show yn mynd â chi ar daith gerddorol drwy ddwyawr a hanner o funudau gwychaf Roc Clasurol, yn dod i ben mewn gornest gitâr ddigon i’ch llorio sy’n bendifaddau’n rhy dda i’w cholli.
Gem go iawn o sioe roc – dolur gwddw does dim dau!
Pris Safonol | £29 |
Tocynnau Cylch Aur (argaeledd cyfyngedig) | £39 |
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
18.00 | Bars yn agor |
19.30 | DECHRAU |
20.40 | Egwyl |
22.30 | DIWEDD |
NODER: Amseroedd bras - gallant newid.