The Bootleg Beatles
Mewn Cyngerdd
Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022, 7.30pm
O Love Me Do hyd at Let It Be, o’r Cavern i gronglwyd Apple, o ddu a gwyn i holl liwiau’r enfys yn pefrio'n seicedelig, dyma bennaf fand Beatles y byd yn ei ôl i fynd â chi ar daith wib drwy’r degawd chwyldroadol ac ysgarol bywiocaf oll – Chwe Degau’r Hwyl a’r Sbri.
Y Chelsea bŵts, y pennau mop, tiwnigau Sergeant Pepper, thus a mwclis Grym y Blodau, torri cỳt mewn siwtiau propor.Pob goslef fach, pob smaldod ciwt, ar y Daith Ddirgelaidd Hud, y canu croch, y melyslais mwyn, wedi’u dal i’r dim ac yma i gyd.
Efo ’mbach o help gan eu ensemble cerddorfaol ac yn cynnwys set arbennig i goffáu trigeinmlwyddiant Please Please Me, dyma sioe amlgyfryngol na fydd ’na’r un o selogion y Beatles, na hen nac ifanc, am ei cholli.Nid y Beatles sydd yma ond choeliwch chi fawr.
‘Entirely Convincing’ - The Times
‘Less a Tribute more a reincarnation’ - The Daily Telegraph
‘Mind-bogglingly authentic’ - The Mail on Sunday
Gwefan Bootleg Beatles: | Bootleg Beatles Facebook
Bootleg Beatles Twitter | Bootleg Beatles Instagram
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.