Tavares
Taith Hits Fwyaf 2022
Dydd Llun 12 Medi 2022, 7.30pm
Bwciwch NawrAc Eraill
Mae’r grŵp canu Rhythm a’r Felan enillodd wobr Grammy, Tavares – sy’n fwyaf adnabyddus ar gorn eu sain heintus a’u cytgord clòs, yn falch o gyhoeddi ‘Greatest Hits Tour 2022’ yn cychwyn ym mis Medi. Mae’r Daith deg oed yng ngwledydd Prydain yn cychwyn yn Southend, Cliffs Pavilion ar 5ed Medi, 2022, yn rhoi tro am London Indigo ar 15fed Medi, 2022, ac yn dod i ben yn Lerpwl ar 18fed Medi 2022.
Chubby, Tiny a Butch (tri brawd) ydi’r Tavares fydd yn perfformio eu Hits Mwyaf – ymhlith y clasuron:‘It Only Takes a Minute Girl’, ‘Heaven Must Be Missing an Angel’, ‘She’s Gone’ a ‘More Than a Woman’ (o drac sain eiconig ‘Saturday Night Fever’) - ac enwi ond dyrnaid.
Ar anterth eu gyrfa, pum brawd Americanaidd o Cape-Verde oedd Tavares – Ralph, Chubby, Pooch, Butch a Tiny. Fe’u ganed ac fe’u magwyd yn Providence, Rhode Island, roedden nhw’n un o fandiau’r cyfnod Disco a efelychwyd fwyaf ac fe werthont ddegau o filoedd o gopïau o’u cerddoriaeth ddalen i fandiau clybiau ac egin gerddorion ym mhedwar ban byd. Bu farw’r aelod hynaf, Ralph Tavares, y llynedd, ddeuddydd cwta cyn pen ei flwydd yn bedwar ugain.
Mae Chubby, Tiny a Butch yn cynnal traddodiad y teulu Tavares, yn dal i berfformio cyngherddau dan eu sang drwy’r byd yn grwn a dim golwg eu bod am roi’r gorau iddi!
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.