Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Dydd Mercher 8 Medi 2021, 7.00pm Drysau yn agor am 7pm
WEDI'I GANSLO
Noder, mae’r digwyddiad hwn WEDI’I GANSLO. Os ydych wedi talu â cherdyn credyd/debyd, byddwch yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig. Os ydych wedi prynu drwy ddull arall, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07743 839816 (peidiwch â gadael negeseuon llais neu yrru negeseuon testun gan na allwn ymateb iddynt ar y rhif symudol dros dro hwn) rhwng Dydd Llun-Dydd Gwener.
Trista’r sôn, am yr ail waith rhaid i mi ohirio fy nhaith i hyrwyddo The Future Bites.Roedd y dyddiadau newydd i fod i gychwyn ym mis Medi.Yn sgìl datblygiadau diweddar, roeddwn i o leia’n hyderus y gallai’r sioeau yng ngwledydd Prydain fynd yn eu blaenau (er na doedd dim sicrwydd), ond nid felly mae hi yng ngweddill Ewrop at ei gilydd.Bellach mae hi’n bur amlwg na fuasai modd i lawer o’r sioeau fynd rhagddynt felly, o’m hanfodd, rwyf wedi penderfynnu canslo’r daith gyfan.A minnau’n artist solo, mae cynifer o’m treuliau ymlaen llaw – costau ymarfer a cherddorion, datblygu’r cynhyrchiad – felly byddai gallu perfformio wedyn dim ond dyrnaid o sioeau ar y gorau ddim yn ariannol ddichonol.Unwaith eto, mae’n wir ddrwg gen i am y siom ac unrhyw thrafferth.Rwy’n bwriadu defnyddio’r amser yn greadigol a chwblhau a rhyddhau dau albwm newydd sydd gen i ar y gweill, yn 2022 a 2023.O ddal hynny mewn cof, mae’n gallach peth i mi bellach edrych ymlaen yn hytrach at fynd â’r albymau hynny ar daith, a chorffori syniadau a chaneuon TFB.
Yn y cyfamser mae yna fwy o gerddoriaeth ynghlwm â TFB ar ei ffordd dros y misoedd i ddod, ar ffurf ailgymysgiadau campus a rhyddhau’r gân Anyone But Me, y trac oedd yn cloi’r albwm i ddechrau cyn i mi i roi Count of Unease yn ei le.Ar hyn o bryd rwyf hefyd yn rhoi pob gewyn ar waith i orffen fy llyfr a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni gan Little Brown.Newyddion hyn i gyd cyn bo hir.
Mae’r byd yn draed moch ar hyn o bryd a dydi canslo fy nhaith innau o fawr o bwys yn nhrefn fawr pethau, ond serch hynny roeddwn i’n llawn cyffro o feddwl am gael ei chychwyn hi o’r diwedd a rhyngweithio â cherddorion go iawn o flaen cynulleidfa go iawn unwaith eto, felly mae hyn yn gryn ergyd i mi.Diolch i chi unwaith eto am eich cydymdeimlad a’ch amynedd. Sx
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07743 839816 / 07391 791934): Seddi'r stalau @ £30.50 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07743 839816 / 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.