Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Steve Hackett Genesis Revisited

Yn syth bin ar ôl ei daith solo fwyaf llwyddiannus erioed, dyma Steve Hackett yn cyhoeddi ei daith 2022, Steve Hackett Genesis Revisited - Foxtrot at Fifty + Hackett Highlights. Bydd y daith yn nodi hanner canmlwyddiant albwm chwedlonol Genesis, Foxtrot o’r flwyddyn 1972, oedd wrth graidd sefydlu’r band yn rym o bwys ym myd roc Prydain. 

Ym 1971 yr ymunodd y gitarydd Steve Hackett â Genesis, a gwneud ei début gyda’r band ar yr albwm Nursery Cryme a aeth â hi’n fasnachol fwy yn Ewrop nag yng ngwledydd Prydain. Ar ôl cryn dipyn o deithio, hybwyd y band gan adweithiau eu cynulleidfaoedd i arbrofi ymhellach â chyfansoddiadau bythol hwy a meithrin eu dawn corffori straeon cryfion. Rhoes hyn, yn ei dro, fwy o gyfle i’r blaenwr Peter Gabriel forio yn y theatredd fu’n rhan o roi lle amlycach i’r band.

“I think Foxtrot was a terrific achievement for Genesis at that time,” meddai Steve Hackett. “I think there is not one weak track on the album, they all have their strong points and I’m really looking forward to doing the whole album live.”

Daeth clod y beirniaid i ran Foxtrot a dyma’r albwm cyntaf gan Genesis i gyrraedd siartiau albymau gwledydd Prydain.  Daeth y trac cyntaf, Watcher of the Skies dan ddylanwad ffuglen wyddonol, yn un o ffefrynnau’r selogion ac yn agorwr setiau tragwyddol ac roedd Get ‘Em Out By Friday yn dalp deifiol o sylw cymdeithsol ar flocdyrau concrit yn cymryd lle hen slymiau, dan symbyliad nid gofal am gymunedau ond barusrwydd datblygwyr.

Hackett oedd cyfansoddwr blaen Can-Utility and the Coastliners, oedd yn cynnwys syniadau cerddorol arbennig o gryf, a chyfranodd hefyd ei ddarn solo clasurol ei ysbrydoliaeth, Horizons. “The original version was a rough mix but there was something about it. A rough monitor mix can have things that something more considered won’t necessarily possess. I liked the sound of the rough mix, so we went with that.”

Uchafbwynt yr albwm oedd yr arwrgerdd dair munud ar hugain Supper’s Ready sy’n dal i fod yn ffefryn mewn cyngherddau ac a oedd yn amlwg ei lle ar daith Second’s Out ddiweddar Hackett. “Supper’s Ready was a sojourn, an odyssey and something that goes down very, very well with audiences now,” meddai Hackett wedyn.  “As part of ‘Second’s Out’ I’ve been playing the whole of that again, it really has stood the test of time. We were a young, struggling band at that time. By the time we were doing Foxtrot, the band was becoming more ambitious. Foxtrot is a must for fans of the early Genesis work. Fifty years ago? It doesn’t feel like those ideas are fifty years old because it was genre-defining, rather than following trends. It still sounds current, now.”

Mae taith Steve Hackett Genesis Revisited - Foxtrot at Fifty + Hackett Highlights hefyd yn addo rhagor o ffefrynnau Genesis ac uchelfannau o gatalog solo helaeth Hackett.

Mae Steve Hackett a’i reng deithio, sef Roger King (allweddellau), Jonas Reingold (bas, llais cyfeilio), Nad Sylvan (llais), Rob Townsend (sacsoffon, ffliwtiau, allweddellau dros ben) a Craig Blundell (drymiau) newydd ddod i ben y daith 31 o oedau, Genesis Revisited Seconds Out +More, yng ngwledydd Prydain ac oedau dros ben yn Ewrop. Hon ydi taith solo fwyaf llwyddiannus Hackett erioed, gyda gwerthu pob tocyn i’r rhan fwyaf o oedau a chael adolygiadau syfrdanol.

“raising the audience fever to near delirium… celebrating what has been an imperious
performance… We’re a lucky bunch of fans to have Steve Hackett on this form.” Prog Magazine

“Hackett has certainly pulled together a world class ensemble of musicians befitting a guitarist of his stature… Breathtaking stuff”. MetalExpressRadio.com

“this is definitely your ‘go-to-gig’ of 2021” ***** MMH Radio

“What a fantastic performance and night’s entertainment” Brighton and Hove News

“When the sun sets on 2021… this show will be right at the top of the list”
10/10 Maximum Volume Music

“Pure class from start to finish” Yorkshire Times


Rhaid i blant dan 14 fod yng nghwmni oedolyn 
Fe allai’r sioe gynnwys themâu i oedolion.  
Hwyrach y bydd gofyn cyfarwyddyd rhieni

 
  • Pris Safonol: £42.50 | £48.00
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444)Seddi'r stalau @ £42.50 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr