Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Sixties Gold 2022

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

THE TREMELOES yn cynnwys CHESNEY HAWKES,
HERMAN’S HERMITS,
THE MARMALADE,
    
SPENCER JAMES, CANWR BLAEN THE SEARCHERS,
GERRY’S PACEMAKERS,
Gwestai Arbennig o’r Unol Daleithiau
GARY PUCKETT

Mae The Tremeloes yn cynnwys CHESNEY HAWKES wedi gwerthu mwy na chan Miliwn o recordiau drwy’r byd yn grwn, yn cynnwys y ddau chwedlonol, Len “Chip” Hawkes a Micky Clarke, gyda’u Hits Rhif Un aruthrol Silence Is Golden, Suddenly You Love Me, Even The Bad Times Are Good, (Call Me) Number One a llond gwlad at hynny!!

HERMAN’S HERMITS.Un o fandiau’r chwe degau werthodd orau, bellach yn dathlu eu pumlwyddiant a hanner cant.Ym Manceinion ym 1964 y ffurfiwyd y band a chanddo er ei glod dair ar hugain o Senglau Hit, deg Albwm Hit, a ymddangosodd mewn tair ffim fawr a gwerthu mwy na phymtheng a thrigain Miliwn o recordiau.Ymhlith yr hits mae:There’s a Kind of Hush, Silhouettes, Can’t You Hear My Heart Beat, Wonderful World, A Must to Avoid, a llond gwlad at hynny.

THE MARMALADE oedd pencampwyr Curiad yr Alban ym 1968, yn ychwanegu gwedd arall at sain y gân pop glasurol, â chytgordiau penigamp.Ymhlith y caneuon fu ar frig y siartiau mae:Lovin’ Things, Reflections of My Life, Falling Apart at The Seams, Cousin Norman a’u hitRhif Unsgubol a gyfansoddwyd gan Lennon a McCartney Ob-la-Di Ob-la-Da.

SPENSER JAMES, o THE SEARCHERS gyda 60s Explosion.Gewch chi glywed holl HITS bendigedig THE SEARCHERS - Needles and Pins, Don’t Throw Your Love Away, Sweets For My Sweets, a hylltod ar ben hynny.

Y Gwestai Arbennig o’r Unol Daleithiau, GARY PUCKETT, Union Gap, un o artistiaid y Chwe Degau werthodd orau, yn HITS fel Lady Willpower, Woman, Woman a’i Rif Un drwy’r byd yn grwn YOUNG GIRL.

Yn ymuno â’r rheng mae’r cerddorion blaenllaw Gerry’s Pacemakers fydd yn perfformio rhai o hits aruthrol Gerry Marsden sy’n cynnwys I Like It, How Do You Do It, You’ll Never Walk Alone, Ferry Across the Mersey a llond gwlad at hynny!

 
  • Pris Safonol: £38.00 | £42.50
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £38.00 pob tocyn
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): 2 gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr