Sixties Gold 2020

Y Tremeloes - wedi gwerthu mwy na chan Miliwn o recordiau drwy’r byd yn grwn, yn cynnwys y ddau chwedlonol Len “Chip” Hawkes a Micky Clarke a’u Hits Rhif Un aruthrol Silence Is Golden, Suddenly You Love Me, Even The Bad Times Are Good, (Call Me) Number One a llond gwlad at hynny!! 

Hermans Hermits. Un o fandiau’r chwe degau werthodd orau, bellach yn dathlu eu pumlwyddiant a hanner cant.Ym Manceinion ym 1964 y ffurfiwyd y band a chanddo er ei glod dair ar hugain o Senglau Hit a deg Albwm Hit; ymddangosodd mewn tair ffim fawr a gwerthu mwy na phymtheng a thrigain Miliwn o recordiau.Ymhlith yr hits mae:There’s a Kind of Hush, Silhouettes, Can’t You Hear My Heart Beat, Wonderful World, A Must to Avoid, a llond gwlad at hynny.  

Y Merseybeats. Stori lwyddiant arall oLerpwl.Ymhlith y recordiau hit mae Sorrow, I Think of You a Wishin’ and Hopin’. 

Marmalade oedd pencampwyr Curiad yr Alban ym 1968, yn ychwanegu at sain y gân pop glasurol â chytgordiau penigamp.Ymhlith y caneuon fu ar frig y siartiau mae:Lovin’ Things, Reflections of My Life, Falling Apart at The Seams, Cousin Norman, a’u llwyddaint sgubol Rhif Un a gyfansoddwyd gan Lennon & McCartney Ob-la-Di Ob-la-Da. 

Dave Berry a’i arddull a’i lais neilltuol a’i hits fu ar frig y siartiau The Crying Game, Little Things, Memphis Tennessee a Mama. 

Mamas and Papas uk, yn cynnwys Terry Bradford, Sussie Arneson, Laurie Briggs a Chris White yn perfformio’r caneuon llwyddiannus gwych Monday Monday, California Dreamin’, Dedicated to the One I love a llond gwlad at hynny. 

Barry Ryan. Cychwynnodd Barry ei yrfa ganu gyda’i frawd Paul ym 1965 a chafodd y ddau sawl hit yn yr hanner cant uchaf gyda’i gilydd, wedyn aeth Barry rhagddo’n artist solo ym 1968 a chael yr hit sgubol ym mhedwar ban byd Eloise a srifennwyd gan ei frawd. 

Yn ymuno â’r rheng mae’r cerddorion o fri Gerry’s Pacemakers fydd yn perfformio rhai o hits aruthrol Gerry Marsden sy’n cynnwys I Like It, How Do You Do It, You’ll Never Walk Alone, Ferry Across the Mersey a llond gwlad at hynny!

 
 Pris Safonol £41

Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr