Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Saxon: Taith Seize The Day 2022

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Mae’r chwedlau Metal Trwm o Brydain Saxon wrth eu boddau o gyhoeddi eu bod ar ben y rhaglen ar daith lawn yng ngwledydd Prydain ym mis Tachwedd 2022. Bydd gwerthu i’r cyhoedd yn cychwyn ddydd Gwener am ddeg o’r gloch y bore GMT. 

Meddai’r dyn blaen Biff Byford:  “Can’t wait to get out on a real tour again, it’s gonna be monumental!  See you all out there ... SEIZE THE DAY!”

Ar y daith bydd y band yn bywiogi eu halbum nesaf Carpe Diem ar draws pedair dinas ar ddeg drwy hyd a lled y gwledydd, a Diamond Head yn serennu’n westeion arbennig. Rhyddheir Carpe Diem ar 4ydd Chwefror drwy Silver Lining Music ac mae ar gael yn awr i’w archebu ymlaen llaw yma.

Mae Saxon eisoes wedi rhyddhau dwy sengl o’r record newydd: “Remember the Fallen” yma a  “Carpe Diem (Seize the Day)” yma.

Cynhyrchwyd Carpe Diem gan Andy Sneap (gitarydd Judas Priest, Exodus, Accept a Priest) yn Backstage Recording Studios yn swydd Derby, a Byford a Sneap yn cymysgu ac yn llunio’r tâp meistr, ac mae’n taro’r glust yn un o’r datganiadau metal mwyaf hanfodol Brydeinig a glywyd mewn blynyddoedd diweddar, ac iddo ddigonedd o wib a min, yn albwm fydd yn tanio llawenydd cefnogwyr pybyr ac yn denu lleng newydd i gorlan Saxon.

Serch gyrfa sydd ar fynd ers pedair blynedd a deugain a gwerthu dros bymtheng miliwn o albymau, gan gynnwys pedwar albwm yn neg uchaf gwledydd Prydain, a chwarae i gannoedd o filoedd o selogion drwy’r byd yn grwn, mae Saxon â’u traed ar y sbardun yn barod at un o’u blynyddoedd prysuraf eto.

Saxon logo

 
  • Pris Safonol: £35.50 | £40.50
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): Seddi'r stalau @ £35.50 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr