Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.
Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni. Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.
Carem roi gwybod i chi fod y cyngerdd Queen Extravaganza nos Iau 27 Ionawr 2022 bellach wedi’i ohirio tan nos Lun 16 Ionawr 2023 oherwydd y sefyllfa sydd ohoni o ran haint Coronafeirws (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys at y dyddiad newydd.
Mae Queen Extravaganza, band teyrnged swyddogol Queen a gynhyrchir gan Roger Taylor a Brian May, yn dychwelyd i'r DU yn 2023, yn dilyn sioeau hynod lwyddiannus ar draws y byd.
Mae'r band, a ddechreuodd deithio yn 2012, yn cynnwys cast treigl o gerddorion dawnus sydd wedi cael eu dewis gan Roger Taylor a Brian May. Mae Queen Extravaganza yn enwog am deithio ledled UDA, Canada, Awstralia, Hong Kong, Brasil ac Ewrop ac mae'r cerddorion talentog hyn wedi ennill llawer o gariad a pharch gan eu cefnogwyr sy'n cynyddu'n barhaus, gan chwarae'r gerddoriaeth yn berffaith.
Mae'r sioe 90 munud ysblennydd hon yn cynnwys mwy nag 20 o glasuron Queen o ganeuon mwyaf poblogaidd y band: Bohemian Rhapsody, Another One Bites the Dust, Crazy Little Thing Called Love, Under Pressure, We Will Rock You, We Are the Champions, A Kind of Magic, Radio Ga Ga, Somebody to Love a Killer Queen yn ogystal â ffefrynnau eraill cefnogwyr."Dyma ein band teyrnged swyddogol ein hunain" meddai Roger Taylor.
Mae'r holl docynnau a brynwyd ar gyfer y dyddiadau gwreiddiol yn ddilys ar gyfer y dyddiadau newydd.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): Seddi'r stalau @ £31.50 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.