Paul Carrack
Ac Eraill
Dydd Sadwrn 12 Chwefror 2022, 7.30pm
Bwciwch NawrBydd Paul Carrack, un o’r lleisiau uchaf ei barch yn y byd cerdd ac yn lladmerydd canu pop dros ddegawdau, yn dychwelyd i ddiddanu ei edmygwyr lu, gan berfformio ar 24 dyddiad ar draws gwledydd Prydain ar daith y GOOD and READY yn 2022.
Wedi ei fedyddio fel ‘Y Dyn â’r LLAIS EURAID’ mewn rhaglen ddogfen i’r BBC ar ei yrfa hanner canrif o hyd, mae Paul – sydd â’i lais i’w glywed ar ganeuon a werthodd filiynau megis ‘How Long’ gan ACE, ‘Tempted’ gan Squeeze a ’Living Years’ gan Mike and the Mechanics a enwebwyd am Wobr Emmy – bellach wedi sefydlu ei hun fel un o’r cerddorion annibynnol mwyaf diwyd ar y sîn.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.