Noson yng Nghwmni’r Waterboys
Dydd Sul 17 Hydref 2021, 8.00pm
Tocynnau ar werth
Dydd Gwener 23 Hydref 2020 @ 10am
Bron yn anad yr un, mae’r Waterboys yn cael y gair o fod yn fand byw tan gamp. O’u cyfnod “cerddoriaeth fawr” ganol yr wyth degau drwy’r cymysgedd dylanwadol sef Celtaidd, canu’r hwyl a chanu gwlad a gwerin ar eu teithiau Fisherman’s Blues clasurol, hyd at y cannoedd o sioeau gwych ynghlwm â’r rhesiad o albymau o’r degawd aeth heibio lle’r oedden ar eu gorau, o An Appointment With Mr Yeats o’r flwyddyn 2011 hyd at Good Luck, Seeker yn yr haf eleni, bu’r Waterboys yn cydasio’n gyson dyndra, ysbrydoliaeth a byrfyfyrio i gyrraedd uchelfannau perfformio’n anad yr un act arall. Dan arweiniad y gitarydd a’r canwr disglair fel arian byw o’r Alban Mike Scott, mae gwedd 2020 ar y band yn cynnwys y gymanfa sydd wedi hen ennill ei phlwy, sef y brodor o Memphis, y gwron ar yr allweddell "Brother" Paul Brown, y ffidler trydan o Iwerddon Steve Wickham, y pencampwr o ddrymiwr o Brydain Ralph Salmins a’r dyn bas ffynci o Iwerddon Aongus Ralston.
Fu cerddoriaeth y Waterboys erioed yn bellach ei chyrhaeddiad poblogaidd. Perfformiwyd eu canuon gan artistiaid mor wahanol â Prince, The Killers ac U2, i gyd wedi perfformio eu clasur The Whole Of The Moon, a Fiona Apple a recordiodd y gân yn feistrolgar y llynedd, Ellie Goulding, a sgoriodd hit yn nhri uchaf gwledydd Pydain â How Long Will I Love You, y rocwyr indi The War On Drugs, Dawes a The Mystery Jets, a’r canwyr clasurol Rod Stewart a Tom Jones. Roedd The Whole Of The Moon hefyd yn amlwg ei lle yn y ffilm Netflix ysgubol o lwyddiannus y llynedd Let It Snow ac yn un o bennaf gyfresi HBO The Affair. Does dim golwg gwywo ar gerddoriaeth y Waterboys a’r lle gorau i’w chlywed ydi gan y dechreuwyr mewn neuadd gyngerdd. Dewch i deimlo’r tân!
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.