Money For Nothing

Fe’i ffurfiwyd yn 2000 yn deyrnged i un o bennaf fandiau roc y byd - Dire Straits. Mae’r perfformiad rhagorol yn heigio gan egni a dawn gerddorol - a Money for Nothing yn rhy dda i unrhyw benboethyn roc na selogyn Dire Straits ei golli.

Ar flaen y band mae Aled Williams, y canwr gitâr disglair sydd i’w glywed run ffunud â Mark Knopfler.  Y tu ôl iddo mae’r rheng yn cynnwys cerddorion profiadol o’r radd flaenaf sy’n gwneud y band yma’n deyrnged deilwng i Dire Straits. Astudiiodd Aled a’r band cyfan Dire Straits yn drylwyr er mwyn ail-greu eu teyrnged cyn debyced ag y bo modd at y gwreiddiol. Nid yn unig ‘y mae’r bachgen yn gallu chwarae’ ond ei lais hefyd ydi’r peth sy’n gwneud Money for Nothing yn ddihafal. Welwch chi hefyd sioe o gitarau run fath â’r rheini chwaraeai Mark. 2020 ydi eu Hugeinmlwyddiant a does dim na fydd y pen-blwydd mwyaf a’r gorau eto!

 

Yn cynnwys yr hits i gyd, o’u sengl gyntaf erioed Sultans of Swing hyd at Brothers in Arms, Walk of Life a’u sengl olaf a ryddhawyd ym 1992 The Bug’ – hefyd y gân chwedlonol ‘Money For Nothing’ (gyda Sting) sef y fideo cyntaf erioed a chwaraewyd ar MTV. Mae’r band hefyd yn cynnwys fersiynau o On the Night, Alchemy a Live @ The BBC.

 

Yn cynnwys yr holl hits, o’u sengl gyntaf erioed Sultans of Swing hyd at Brothers in Arms, Walk of Life a’u sengl olaf The Bug a ryddhawyd ym 1992 – hefyd y gân chwedlonol Money For Nothing (gyda Sting), y fideo cyntaf erioed a chwaraewyd ar MTV. Mae’r band hefyd yn cynnwys fersiynau o On the Night, Alchemy a Live @ The BBC.

 

Rhaid i blant dan 14 fod yng nghwmni oedolyn.

 

 

Pris Safonol £27.50
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith Pob tocyn £2.00 yn rhatach

 

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr