Mike + The Mechanics
Taith Refueled! 2023 – Yr holl hits a thropyn o Genesis.
Dydd Mercher 10 Mai 2023, 7.30pm
Bwciwch NawrMike + The Mechanics, a werthodd dros ddeng miliwn o recordiau drwy’r byd yn grwn – yn cyhoeddi eu Taith ‘Refueled!’ 2023 – yr holl hits a thropyn o Genesis.
Dyma i chi Mike + The Mechanics: un o aelodau sefydlu Genesis, Mike Rutherford (Gitâr), un o ganwyr Rhythm a’r Felan mwyaf toreithiog gwledydd Prydain; Andrew Roachford (Llais blaen a chyfeilio), a’i hits cynt yn cynnwys Cuddly Toy a Family Man; a’r Canadiad o’i enedigaeth, y canwr Tim Howar (Llais blaen a chyfeilio), a ffurfiodd ei fand Vantramp a theithio ynddo gyda Rod Stewart a Paulo Nutini a’u tebyg. Mae Tim yn rhannu’r dyletswyddau canu â Roachford a’r ddau’n ychwanegu gwedd eneidfawr newydd at sain y band sydd eisoes wedi ennill ei phlwy.
Bydd Taith ‘Refueled!’ yn 2023 yn cynnwys traciau o’u halbwm diweddaraf sy’n fawr ei glod gan y beirniaid 'Out of the Blue' a thipyn o Genesis. Mae eu nawfed albwm yn cynnwys rhai o hoff draciau’r band wedi’u hailwampio, gan gynnwys 'The Living Years' a’r gân fythgofiadwy 'Over My Shoulder', ynghyd â thair cân newydd sbon danlli grai: 'Out Of The Blue', 'One Way' a 'What Would You Do'.
A thâl postio o £2.00 yn ôl eich dewis.
Ar gyfer tocynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Hyn a hyn sydd ar gael – cofiwch eu codi’n fuan rhag cael eich siomi.