Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod digwyddiad Luther nos Sad 2 Mai 2020 ac nos Sad 27 Mawrth 2021, wedi’i ohirio tan nos Gwen 28 Ionawr 2022, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo Coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Sioe orau fyw bosib y Byd sy’n dathlu’r ‘Llais Melfed’ – dewch i glywed yr holl hits o’i yrfa anhygoel, yn cynnwys dros ddeugain miliwn o werthiannau albymau ac wyth gwobr Grammy yn cynnwys llawer o’r anthemau dawns a chaneuon serch mwyaf a sgrifennwyd erioed, ac ar y blaen y deyrnged ryngwladol i Luther Vandross, Harry Cambridge a’i fand deg darn.
“Never Too Much”, “ Here and Now “, “Give Me the Reason”, ”I Really didn't mean it”, ” Stop to Love”, “So Amazing”, ”The Best Things in Life Are Free”, ” Always and Forever”, ” Endless Love”, ”Ain’t No stoppin’ Us Now”, “Your Secret Love”, “Shine”, “The Closer I Get To You”, “Love The One You’re With”, ”Any Love”, “Superstar”, “Until You Come Back to Me”, ”Dance with My Father” a llond gwlad at hynny.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.