Luke Evans

A Gwesteion Arbennig

Heddiw mae un o sêr byd-enwog y llwyfan a’r sgrîn, Luke Evans, yn cyhoeddi manylion ei Daith gyntaf erioed yng ngwledydd Prydain i gefnogi ei albwm début ‘At Last’ sy’n dwyn ynghyd gasgliad eclectig o ganeuon modern a chlasurol, a guradwyd yn bersonol gan Evans i bwysleisio ac i fod yn gymar i’w draddodi a’i ddull lleisiol dihafal. 

‘As some people know, it’s been my dream throughout my life to record and release an album. And now that the response to my debut album ‘At Last’ has been so brilliant, I’m finally getting a chance to fulfil another dream of mine……to go on tour and perform these songs to my fans. I can promise that I will be delivering an entertaining show for everyone, with a few surprises in store,’ meddai Luke yn frwd, yn sôn am fynd ar daith am y tro cyntaf.

Bydd Evans yn perfformio traciau o’i albwm, yn cynnyws clasuron modern fel ‘With Or Without You’ U2, baledrymus Pat Benetar o’r wyth degau ‘Love Is A Battlefield’ ac ‘If I Could Turn Back Time’ Cher, ynghyd â ‘Bring Him Home’ o Les Mis, un o hoelion wyth Jazz ‘At Last’ Etta James, ‘The First Time Ever I Saw Your Face’ gan Roberta Flack.    

 
 Pris Safonol £43 | £53 | £63
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith - ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444 Seddi'r stalau @ £43 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr