Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Judy Collins

Yn ystod mwy na hanner can mlynedd ym myd cerdd bu Judy Collins bob gafael yn ddi-ffael ei chwaeth yng nghrefft canu.Casgliad syfrdanol oedd Wildflowers, ei halbwm carreg filltir o’r flwyddyn 1967,  yn ganeuon gwreiddiol ochr yn ochr â chaneuon gan gantorion oedd heb eto ennill eu bri, megis Joni Mitchell a Leonard Cohen, a dewisiadau anturus gan Jacques Brel a Francesco Landini.Yn sgil craffter ei dewis liwiau a’i doniau llenyddol datblygodd yn gyfansoddwr caneuon ac yn adroddwr straeon barddonol.  Bellach ar ei chweched degawd yn ganwr ac yn gyfansoddwr caneuon, mae Judy’n tyfu’n ddirfawr ac yn doreithiog ei chreadigedd.  

Rhyddheir Spellbound, nawfed albwm stiwdio ar hugain y trysor diwylliannol, ar Chwefror 18fed 2022, a gwêl Judy’n morio mewn dadeni artistig.Mae’r albwm tair cân ar ddeg yn garreg filltir eto yn ei gwaith.Dyma’r tro cyntaf erioed iddi sgrifennu’r caneuon i gyd ar un o’i halbymau.Mae’n cynnwys deuddeg cân werin fodern newydd a sgrifennwyd yn ddiweddar a thrac bonws, sef ei chân fytholwyrdd, “The Blizzard”.Album mewnsyllol ac argraffiadol ydi Spellbound.  Mae’n ymagor fel petai Judy’n casglu ei bywyd yn arddangosyn mewn amgueddfa, ac yn ein croesawu i fwrw trem yn ôl ar ei munudau mwyaf ffurfiannol, rhai’n fawr ac yn gyhoeddus, a rhai’n ddwys o bersonol ac agosatoch.

“They say after the plague came the Renaissance,” meddai Judy gan chwerthin yn glên, yn bras gyfeirio at y pandemig. “The truth is, I didn’t do an album like this sooner because I had other projects on my mind.This album was necessary for me to keep creative—it was the next piece of the puzzle.”

 

 
  • Pris Safonol: £30.00 | £40.00

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr