Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Heather Small

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Mae Heather Small yn dychwelyd i’r Neuadd ddydd Gwener 25 Mawrth 2022 i ganu ei chaneuon mwyaf poblogaidd gan gynnwys Moving On Up, One Night in Heaven, Search for the Hero a Proud.

A hithau’n llais chwedlonol M People, daeth llwyddiant ysgubol i ran Heather Small gyda’r band yn sgil ennill Gwobr Act Ddawns Orau Prydain yng Ngwobrau BRIT ym 1994 ac ym 1995, yn ogystal â Gwobr Mercury am eu halbwm clasurol Elegant Slumming.

Ar 20fed Ionawr 1965 y ganed Heather Small, a ddaeth i oed ar stad cyngor yng Ngorllewin Llundain. Yn sgil mynd i'r ysgol Sul ac i'r 'Good News Club', daeth crefydd a ffydd yn agwedd bwysig ar fywyd Heather.Ym Mhrydain y saith degau y daeth Heather i oed, heb fod arni eisiau cael ei stereoteipio na'i thrin yn wahanol, a gwyddai fod arni eisiau gadael ei hôl ar y byd.

Er ei bod yn brwydro yn erbyn swildod ac yn nerfau i gyd, ymunodd â'i band cyntaf Hot!House a ryddhaodd ddau albwm ddiwedd yr wyth degau.

Yn rhan o M People, a hits megis Moving On Up, One Night In Heaven a Search For The Hero ac albymau fel Elegant Slumming, Bizarre Fruit a Fresco yn mynd â hi'n aruthrol drwy'r byd yn grwn, daeth Heather yn un o leisiau arloesol Prydain y naw degau, a'r band yn ennill Gwobr yr Act Ddawns Brydeinig Orau yn y Brits ym 1994 ac ym 1995, yn ogystal â Gwobr Gerdd Mercury am Elegant Slumming.

Darllenwch fwy am fywgraffiad Heather Small

 
  • Pris Safonol: £33 | £38 | £48 
  • Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): Seddi'r stalau @ £33 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr