Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.
Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni. Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.
Yn anffodus, oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen, mae’r daith Essential 80s ym mis Medi/Hydref wedi’i chanslo. Bydd eich pwynt prynu yn eich ad-dalu. _____________________________________________________
Am ad-daliadau ar docynnau, cysylltwch â’ch pwynt prynu.Tocynnau gafodd eu prynu yn Neuadd Dewi Sant – os ydych wedi talu â cherdyn credyd/debyd, byddwch yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig. Os ydych wedi prynu drwy ddull arall, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.
PAUL YOUNG, T’PAU A HUE AND CRY YN DOD Â HUD YR WYTH DEGAU I WLEDYDD PRYDAIN YM MIS MEDI 22!
Degawd hud a thanbeidrwydd, oes fideos cerdd, y deuddeng modfedd, CDiau detholiad a rhai o’r sêr pop mwyaf bythol yn y byd!Mae Essential 80’s yn dod â’r detholiad byw gorau oll o artistiaid yr wyth degau oedd ar frig y siartiau i’r llwyfan ym mis Medi ar daith hiraethus drwy ffefrynnau pawb.
Gwibiodd Paul Young, un o eilunod yr wyth degau, i enwogrwydd ar gorn ei albwm tra phoblogaidd No Parlez wedyn rhesiad o hits yn y deg uchaf megis Wherever I Lay My Hat aeth i’r rhicyn rhif un ym 1983, Love of The Common People, Everytime You Go Away ac Everything Must Change. Enillodd hefyd Wobr Brit y Canwr Gwrywaidd Gorau, mae’n canu’r llinellau agoriadol ar y Sengl Band Aid gwreiddiol Feed The World a pherfformiodd yn Live Aid ym 1984. Fel sydd hysbys mae Paul yn ddyn teulugar triw a chariadlon ac mae hefyd yn gogydd brwd, yn feiciwr ac yn selogyn popeth Mecsicanaidd!
Fe fu i Carol Decker o T’Pau dorri calonnau â’i môr o lais ar hits enfawr fel China in Your Hands (Rhif Un am bum wythnos yn Neugain Uchaf Swyddogol gwledydd Prydain) a’r gân Heart and Soul wedi’i threfnu’n ddihafal, eu sengl début a gyrhaeddodd rif pedwar.Daeth y gantores â gwallt fflamgoch yn un o eiconau’r wyth degau i aml i lances oedd yn dyheu am fod run fath â hi!Mae eu halbwm o’r flwyddyn 1987 Bridge of Spies yn ymgorffori’r wyth degau gymaint bob tamaid â gwallt Carol ar wedd pinafal a bennodd ffasiwn!
Roedd y deuawd o’r Alban Hue & Cry yn ddiwrthdro yn eu hit oedd yn heigio gan egni Labour Of Love. Drwy gydol yr wyth degau roedd y band o gwmpas yr Ugain Uchaf a phan ryddhawyd eu halbwm Hue and Cry arloesol Remote nid yn unig y daeth clod aruthrol i’w rhan ond hefyd llwyddiant aml-blatinwm, gydag epilio’r senglau Ordinary Angel, Violently a Looking for Linda.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £34.50 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.