Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Don McLean

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Ac Eraill - Elles Bailey 

Mr ‘American Pie’ yn cyhoeddi taith yng ngwledydd Prydain i ddathlu hanner can mlynedd o’i sengl fu’n llwyddiant ysgubol a’i yrfa hynod ac oesol ym myd cerdd

Mae 2021 yn nodi Hanner Canmlwyddiant albwm tra hoff Don McLean, American Pie ac i ddathlu, heddiw mae Don yn cyhoeddi ei daith yn Ewrop sy’n cyrraedd gwledydd Prydain Medi 22.

Bu gan y Trwbadŵr o Americaniad senglau yn yr Ugain Uchaf drwy’r byd yn grwn - American Pie, Vincent, Cryin, And I Love You So, Wonderful Baby, Since I Don’t Have You, It’s Just The Sun ac If We Try.Mae Madonna, Drake a Garth Brooks ymhlith yr artistiaid lawer sydd hefyd wedi recordio caneuon Don.Mae yn Oriel Enwogion Grammy, Oriel Enwogion Cyfansoddwyr Caneuon ac mae’n enillydd gwobr Gorchest Oes y BBC.   Eleni dyfarnwyd iddo seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, sydd i’w chael o flaen The Pie Hole Bakery, rhwng Hollywood a Vine. 

GAIR YNGHYLCH AMERICAN PIE

Ym 1971, rhyddhaodd Don McLean American Pie yn sengl A ddwbl ac o fewn mis roedd yn y siartiau.  Yn sgil diddordeb y cyfryngau a’r cyhoedd aeth y sengl i #1 yn yr Unol Daleithiau a gwneud Don yn seren drwy’r gwledydd.  Er gwaethaf degawdau o ymgeisiau i’w dehongli, celgar fu Don erioed ynghylch ystyr y gân ac mae’n ddirgelwch hyd heddiw.  

Bellach, hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae American Pie yng Nghofrestrfa Recordio Genedlaethol Llyfrgell y Gyngres, yng nghwmni llai na phum cant o weithiau, yn cynnwys Somewhere Over the Rainbow.Enwyd American Pie gan Ddiwydiant Recordio America (RIAA) yn un o bum cân fwyaf yr ugeinfed ganrif.Yn 2002, gorseddwyd y gân yn Oriel Enwogion GRAMMY®.Yn 2015, rhoddodd Christies lawysgrif McLean o eiriau American Pie  ar ocsiwn a gwerthodd am ychydig dros $1.2 filiwn.Perfformiodd McLean y gân i bwysigion lawer gan gynnwys yr Arlywydd Clinton ym Mhrifwyl Goffa Lincoln yn Washington DC.

Brodor o Efrog Newydd ydi Don McLean, ac un o’r cyfansoddwyr caneuon mwyaf eu parch yn hanes America.Ar ôl gwneud ei bwt yn sîn clybiau Efrog Newydd ddiwedd y chwe degau, aeth yn ei flaen i sgorio hits enfawr fel Vincent (Starry, Starry Night), Castles in the Air, a llond gwlad at hynny.Ei gân And I Love You So oedd thema priodas y Tywysog Harry a Megan Markle.  Mae American Pie yn ymddangos yn y ffilm Avengers Black Widow a bydd yn ffilm Tom Hanks Finch sydd ar ddod.  Y peth nesaf welwn ni gan Mclean ydi llyfr i blant y disgwylir gweld ei ryddhau yn 2022. 

 
  • Pris Safonol (Uchafswm o 6 tocyn y pen): £42.50 | £47.50 | £57.50 
  • Pecynnau VIP Cwrdd a Chyfarch @ £141.50

    • Tocyn yn un o’r seddi gorau yn y 4 rhes flaen
    • Cwrdd a chyfarch Don McLean cyn y sioe
    • Cyfle i dynnu llun gyda Don McLean – mae gofyn tynnu’r lluniau i gyd ar gamerâu’r cwsmeriaid eu hunain
    • Llyfr-gylchgrawn swyddogol
    • Cortyn Gwddw a Chofrodd Laminedig VIP i gofio
    • Print 12 modfedd albwm American Pie wedi’i lofnodi y gellir ei fframio

      Pecynnau VIP Cwrdd a Chyfarch @ £141.50

      Rhaid casglu’r nwyddau i gyd ar noson y sioe, gewch chi ebost gyda’r oriau a’r wybodaeth o fewn pythefnos i’r digwyddiad.

  • Pecyn VIP Aur @  £91.50

    • Tocyn yn un o’r seddi gorau yn y 10 rhes flaen
    • Llyfr-gylchgrawn swyddogol
    • Cortyn Gwddw a Chofrodd Laminedig VIP i gofio
    • Print 12 modfedd albwm American Pie wedi’i lofnodi y gellir ei fframio

Rhaid casglu’r nwyddau i gyd ar noson y sioe, gewch chi ebost gyda’r oriau a’r wybodaeth o fewn pythefnos i’r digwyddiad.

  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): Seddi'r stalau £42.50 yr un

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr