Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.

 

Mae Neuadd Dewi Sant ar gau i’r cyhoedd hyd nes clywir yn wahanol, mewn grym ar unwaith gan ein bod yn dal at gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf.


Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Dionne Warwick

Heddiw cyhoeddodd yr artist recordio chwedlonol Dionne Warwick a enillodd chwe Gwobr Grammy fod oedau newydd ei chyngerdd yng ngwledydd Prydain ac Ewrop, ‘One Last Time’ yn rhan o’i Thaith Canu’n Iach ym misoedd Medi a Hydref 2020.   

Meddai Warwick  “After almost six decades I’ve decided it’s time to put away from touring trunk and focus on recording, one off concerts and special events.  I still love performing live, but the rigours of travelling every day so far from home, sleeping in a different hotel each night, one concert after the other, is becoming hard. So, I’ve decided to stop touring on that level in Europe…. But I’m not retiring!!” 

Bydd hegl gynta’r daith yma ar ben y rhaglen, yn rhai o theatrau harddaf gwledydd Prydain, yn cwmpasu gyrfa aruthrol Warwick, gyda chaneuon o’i chatalog recordio sgubol o lwyddiannus yn cynnwys detholiad o ganeuon clasurol Warwick/Burt Bacharach/Hal David megis ‘I Say A Little Prayer’‘Do You Know The Way To San Jose’, ‘Anyone Who Had A Heart’ a ‘Walk On By’

Mae Warwick ymhlith y deugain o wneuthurwyr hits mwyaf yn oes roc drwyddi draw (1955-1999), ar sail Siartiau Senglau Pop “Hot 100” Billboard.  Mae’n un o’r cantoresau fu fwyaf yn y siartiau erioed, a phum deg chwech o’i senglau’n cyrraedd “Hot 100” Billboard rhwng 1962 a 1998, a phedwar ugain o senglau’n cyrraedd holl siartiau Billboard ar y cyd.  

 
 Pris Safonol £63 | £73

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr