Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Dexys - WEDI'I GANSLO

Dewch at Dexys i’w gweld yn perfformio caneuon o’u halbwm newydd, The Feminine Divine, wedyn detholiad o glasuron Dexys (yn cynnwys digonedd o ddeunydd o Too-Rye-Ay).

Mae’r tocynnau ar werth ddydd Gwener 14 Ebrill am ddeg y bore.Os ydych chi’n un o Gyfeillion Neuadd Dewi Sant, byddwch yn gallu mynd i werthiant ymlaen llaw ar 13 Ebrill am ddeg y bore drwy fewngofrestru i’ch cyfrif.

Ddechrau’r wythnos cyhoeddodd Dexys eu halbwm newydd The Feminine Divine y bu mawr edrych ymlaen ato ac wedyn cyhoeddi taith yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon ym mis Medi 2023.Gwêl The Feminine Divine Live! Dexys yn perfformio’r albwm newydd yn ddramatig o’r dechrau i’r diweddglo, wedyn detholiad o glasuron a hits (yn cynnwys digonedd o Too-Rye-Ay).

Pumed albwm Dexys o ddeunydd gwreiddiol ydi The Feminine Divine wedi’i gynhyrchu unwaith eto gan Pete Schwier ynghyd â’r cerddor sesiwn a’r cynhyrchydd mawr ei glod Toby Chapman.Ar ôl cymryd hoe fach i roi’i egni ar drywydd drachefn, daeth Kevin Rowland yn ei ôl i fyd cerdd a chanddo olygwedd a hyder newydd.Record bersonol, os nad cwbl hunangofiannol, yn portreadu dyn y mae ei olygon ar y byd wedi datblygu gyda threigl amser.Nid dim ond ei olygon ar ferched, ond yr holl gysyniad o wrywdod y’i magwyd ynddo: addysg a dad-ddysgu sy’n cael eu holrhain ar draws fwa The Feminine Divine a hynny’n benfeddwol.

Mae hanner cynta’r record yn heigio gan swagar y theatr gerdd, llawer ohono wedi’i sgrifennu ar y cyd â chanwr trombôn gwreiddiol Dexys, Big Jim Paterson (aelod o’r band na fydd yn mynd ar daith).Mae ail ochr y record heb ei thebyg ymhlith yr un dim wnaeth Dexys o’r blaen.Cabaret sosi, trwm gan synth, a sgrifennwyd ar y cyd â Sean Read a Mike Timothy.Mae’n eiriasboeth, yn fyrlymog ac yn nwydus, o bryd i’w gilydd yn ddrygargoelus ac yn drwm a thro arall yn goch ac yn ffynclyd.Cymysgfa bur feddwol.

A chanddyn nhw dros filfiliwn o ffrydiau byd-eang, tri albwm yn y deg uchaf yng ngwledydd Prydain, dwy sengl rhif un, Gwobr Brit ac albwm werthodd luosblatinwm sef eu record soffomor Too-Rye-AyThe Feminine Divine yn nodi pennod newydd mewn llyfr sy’n dal i wella fwy fyth.

 
  • Pris safonal: £38 | £45.50 | £50.50 | £63
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) @ £38 y tocyn

A thâl postio dewisol o £2.00.
I gael tocynnau Hynt, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 (dim ond hyn a hyn sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi).

Hynt logo

 
Wedi’i ganslo